Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:04, Dydd Sul, 8 Chwefror 2009

Dydw i ddim eisiau mynd ymlaen ac ymlaen am yr LCO iaith ond mae un peth bach yn fy mhoeni. Mae'r llywodraeth yn bae yn dadlau fel mater o egwyddor taw'r cynulliad yw'r corff cymwys i lunio mesurau ieithyddol. Ond os taw'r egwyddor sy'n bwysig pam cytuno i unrhyw gyfyngiadau o gwbwl ar yr hawl? Fel mater o egwyddor oni ddylai'i cynulliad fod a'r gallu i ddeddfu orfodi dwyieithrwydd ar siopau tsips ac, o ran hynny, sinemâu?

Dyma'r ffilmiau. Ychydig o Gernyweg yn gyntaf.

Mae Dewi wedi canfod Celtiaid yn Serbia...

... a hanes Patagonia yn Sbaeneg

Gan fod pencampwriaeth y chwech gwlad yn cychwyn y penwythnos hwn dyma ychydig o win y gorffennol o archifau'r Â鶹ԼÅÄ. Mae'r gystadleuaeth wedi cau!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:00 ar 8 Chwefror 2009, ysgrifennodd dewi:

    Rhyfedd mor bell mae'r Gernyweg a'r Gymraeg wedi gwahanu. Dim yn deall un gair mae'r glowr yn dweud tra bo Gaeleg yr Alban ac Iwerddon yn ddealladwy i'w gilydd.

  • 2. Am 13:12 ar 8 Chwefror 2009, ysgrifennodd dewi:

    Mae'r boi yma'n ddoniol - ydy e o ddifrif?

  • 3. Am 18:18 ar 8 Chwefror 2009, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    "Fel mater o egwyddor oni ddylai'i cynulliad fod a'r gallu i ddeddfu orfodi dwyieithrwydd ar siopau tsips ac, o ran hynny, sinemâu?"

    Dyna'r union beth oeddwn i'n meddwl Vaughan, a dyma pam bydd Cymdeithas yr Iaith yn lobio aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol yn gyson dros y misoedd nesaf, yn galw am gael gwared o'r cyfyngiadau'n llwyr.

    Y cam nesaf (a'r frwydr nesaf) yw ceisio cael mesur iaith sy'n cynnwys y sector breifat yn llwyr.

  • 4. Am 19:13 ar 8 Chwefror 2009, ysgrifennodd dewi:

    Ymysg yr holl gampweithiau diwyllianol ar You Tube mae un yn rhagori - hollol fendigedig!

  • 5. Am 10:43 ar 10 Chwefror 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Os oes diddordeb gyda ti mewn 'Celtiaid Prydeinig' o wledydd eraill, dyma i ti Brydydd Canoloesol Almaenig yn canu alawon Cymraeg ar delyn fach!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.