Βι¶ΉΤΌΕΔ

Help / Cymorth
Β« Blaenorol | Hafan | Nesaf Β»

Pregeth Rhys

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Gwener, 6 Chwefror 2009

Dyn sy'n hoff o brofocio yw Rhys Williams. Diolch byth amdanyn nhw! Mae p'un ai ydy hi'n beth call i ymgeisydd yn Nwyrain Caerfyrddin ymosod ar rai o drigolion cefn gwlad ai peidio yn fater arall!

Dydw i erioed wedi byw mewn pentref. Fedrai ddim dweud felly faint o wirionedd sy 'na yn yn y rhifyn cyfredol o Barn. Mae Rhys yn honni bod 'na "lawer o bobol fach bwysig ein cymunedau Cymraeg yn fwriadol neu yn ddiarwybod yn defnyddio'r iaith naill ai gadw eraill allan neu er mwyn rhoi nhw yn eu priod le"

Y cyfan ddwedai i yw fy mod yn rhyfeddu bod Rhys yn meddwl mai ffenomen wledig yw hynny! Mae'n amlwg nad yw wedi mynychu ambell i gapel yng Nghaerdydd!

Mae Rhys yn un o'r gwesteion ar "Dau o'r Bae" heddiw. Mae'n bosib gwrando ar ei sylwadau yn fyw, ar iPlayer neu trwy danysgrifio i'r podlediad trwy wasgu'r botwm ar y dde.

Un nodyn bach; Mae'r heddlu yn awr yn ymchwilio i sylwadau'r Cynghorydd Ramesh Patel ynghylch addysg Gymraeg. Oherwydd hynny fe fyddaf yn weddol llym wrth gymedroli sylwadau yn ei gylch.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:55 ar 6 Chwefror 2009, ysgrifennodd Ceri Jones:

    Byswn i'n meddwl taw 'gravitas' a synnwyr cyffredin sydd ei angen ar Aelod Seneddol, ac nid dyn sydd yn gallu profocio.

    Diolch byth - weda i - na chaiff Mr Williams byth mo'i ethol i unryw sywdd o bwys.

    Dyw'r werin ddim yn dwp yn Ynysybwl na Llambed. Hysbys y dengys dyn o ba radd y bo ei dwpdra a'i ddiffyg crebwyll, ac ma hwncw- y twat - yn ei ddangos e i'r byd a'r betws ar bob un cyfla gaiff e pan agoriff e ei geg.

  • 2. Am 15:04 ar 7 Chwefror 2009, ysgrifennodd Wil:

    Hmm - pryfocio!! Naw 'sgwn i beth fyddai dy farn petae'r dyn yma'n cyfeirio ei gasineb tuag at hoywon?

  • 3. Am 17:14 ar 7 Chwefror 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Vaughan - meddwl fod y Βι¶ΉΤΌΕΔ wedi rhoi easy-ride i Rhys Williams. Chi wedi derbyn ei spin mai trafod 'rhai' Cymry Cymraeg oedd e ac nid y gymuned. Mae'n hollol amlwg beth oedd ei darged o'i erthygl.

    Sut mae stori (neu ddifyg stori) am clown fel Clarkson yn galw enwau ar Gordon Brown yn fwy o stori i Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru Wales na sylwadau darpar ymgeisydd Llafur at y gymuned Gymraeg wn i ddim. Mor wahanol i'r gor-ymateb i sylwadau honedig hiliol Simon Glyn.

    Cytuno 'da lot o be' mae Prysgodyn yn ei ddweud:

  • 4. Am 17:54 ar 7 Chwefror 2009, ysgrifennodd Dan Din:

    Awgrymaf nad yw defnydd o'r gair "y twat" yn addas ar gyfer y wefan hon.

  • 5. Am 21:17 ar 7 Chwefror 2009, ysgrifennodd Dai :

    Mae'n amlwg dy fod ti Vaughan yn meddwl fod ei sylwadau yn rhai derbyniol. Beth wyt ti'n dweud isod? Rwy't ti'n ychwanegu at ei sylwadau gan ymosod ar Cymry Cymraeg y ddinas! Rwy't ti mwy neu lai yn rhoi 'rubber stamp' i'w sylwadau.

    "Y cyfan ddwedai i yw fy mod yn rhyfeddu bod Rhys yn meddwl mai ffenomen wledig yw hynny! Mae'n amlwg nad yw wedi mynychu ambell i gapel yng Nghaerdydd!"

    Mae snobs i gael ym mhob man....Clybiau rygbi, Mosgs, Synagogs, Clybiau seiclo.....ond nid yw hynna yn dweud fod pawb yn y rhain eisiau cadw eraill allan neu yn eu priod le.....yr un peth a'r capeli Cymraeg fyddwn i'n meddwl.

    Mae dy feddylfryd Vaughan mor NuLabouraidd a Βι¶ΉΤΌΕΔaidd.

  • 6. Am 23:19 ar 7 Chwefror 2009, ysgrifennodd Tom Morgan:

    Fel aelod yn un o gapeli Cymraeg y brifddinas, rwyf wedi cael fy siomi gyda'ch sylwadau negyddol. Rydym ni'n gwneud ymdrech i gyfeithu'r oedfa i unrhyw berson di-gymraeg ac hefyd yn rhoi taflen yn esbonio prif bwyntiau'r bregeth yn Saesneg. Pryd oedd y tro diwethaf i chi Vaughan mynychu un o'r capeli?

  • 7. Am 09:50 ar 8 Chwefror 2009, ysgrifennodd Wil:

    Cytuno'n llwyr gyda D.Enw.
    Tybiaf fod dy lith y tro yma Vaughan yn datgelu rhywfaint ar y berthynas glos sy'n rhaid i newyddiadurwyr ei feithrin gyda swyddogion a chynrhychiolwyr plaid os ydynt am gael deunydd stori. Canlyniad hyn ar adegau wrth gwrs yw diffyg gwrthrychedd.
    Casineb Clarkson yn cael y sylw dyledus - casineb "Rhys" - "diolch amdano"!

  • 8. Am 11:13 ar 8 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Sylwad ysgafn oedd hi i fod! Doeddwn i ddim cweit yn deall dadl Rhys ac eirhio'r honniad fod 'na snobs yng nghefn gwlad Cymru...ac fel wyt ti'n dweud mae 'na snobs ym mhobman. Dw i wedi cael fy nghyuddo cyn hyn o fod yn Dori, yn nashi a hyd yn oed yn ffasgydd. Hwn yw'r tro cyntaf i mi gae fy nghyuddo o fod yn "nulabour"! Gyda unrhyw lwc fe fydd y set yn gyflawn cyn bo hir!

  • 9. Am 17:33 ar 9 Chwefror 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    Mae'r sylwadau hyn yr un mor wirion ag y byddai ymosod ar holl boblogaeth y Cymoedd, am fod rhai yn eu plith, er eu bod ar y cyfan ymhlith pobl glenia'r ddaear yma, yn coleddu nifer o syniadau 'ceidwadol'; 'adweithiol' hyd yn oed.

    Wrth gwrs, mae Rhys Williams yn gwybod yn iawn nad ydi o'n mynd i fynd yn agos at San Steffan i gynrychioli neb.

    Ond, diawl, mae o eisiau byw yn Llanbed hefyd ...

  • 10. Am 22:52 ar 9 Chwefror 2009, ysgrifennodd Hedd:

    Cefais i fy siomi gyda'r modd y cafodd y stori yma ei adrodd gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Roedd yr hyn wnaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ adrodd yn hollol wahanol i gynnwys erthygl Rhys. DWI'N CASAU CYMRY CYMRAEG ddywedodd e, nid rhai Cymry Cymraeg, ond y Cymry Cymraeg yn gyffredinol. Pam na wnaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ adrodd y stori yma'n gywir Vaughan?

    Be fyddai wedi digwydd petasai rhywyn wedi dweud "Dwi'n casau pobol ddu" "Dwi'n casau Iddewon" "Dwi'n casau hoywon"? Byddai hon yn stori cyson ar newyddion y Βι¶ΉΤΌΕΔ ac yn holl bapurau newydd Lloegr, ac yn cael ei adrodd YN GYWIR!

Mwy o’r blog hwn…

°δ²Ή³Ω±π²µ΄Η°ωΓ―²Ή³ά

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.