Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bae DC

Vaughan Roderick | 16:56, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009

Roeddwn i wedi dod i'r casgliad bod 'na ddim byd newydd i ddweud ynghylch datganoli ac mae ail-adrodd hen syniadau a hen ddadleuon byddai'n ffawd rhwng nawr a phryd bynnag y cynhelir y refferendwm nesaf.

Ond diawch, beth yw hyn? Mae rhyw un wedi cael syniad newydd! Dydw i ddim yn dweud ei fod e'n syniad da...ond o leiaf mae'n un gwreiddiol!

Yfory fe fydd Russell Deacon, Democrat Rhyddfrydol ac academydd yn UWIC yn cyflwyno papur i gonfensiwn Syr Emyr yn awgrymu y dylai rhannau o Gaerdydd gael eu llywodraethu'n uniongyrchol o'r Cynulliad gyda'r Cyngor Sir yn gofalu am weddill y ddinas.

Am wn i, meddwl am greu rhyw fath o "District of Columbia" neu Frasilia mae Russell. Ar yr olwg gyntaf mae'r syniad yn un hurt ond mae 'na reswm dros yr awgrym. Yn ôl Russell mae'n annheg disgwyl i drethdalwyr Caerdydd ysgwyddo'r cyfan o'r baich ariannol am greu cofebion a sefydliadau cenedlaethol ei natur. Ar y llaw arall mae trethdalwyr mewn rhannau eraill o Gymru yn gyndyn i weld eu harian nhw yn ariannu sefydliadau yng Nghaerdydd.

Yr ateb yn ôl Russell yw creu ardal sydd yn eiddo i Gymry gyfan ardal sydd yng Nghaerdydd ond sy ddim yn rhan oGaerdydd.

Fel dwedais i o leiaf mae'n wreiddiol!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:47 ar 5 Chwefror 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da ac roedd llawer o'r pethau eraill roedd y bachan yn ei ddweud yn gwneud synnwyr.

    A dweud y gwir, mae'n syfrdannol nad oedd nifer o'r awgrymiadau heb eu gwireddu eisoes - diffyg gweledigaeth neu barch a balchder at urddas sefydliad y Cynlliad a Chymru sy'n gyfrifol am hynny am wn i.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.