Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cawl o gogydd

Vaughan Roderick | 20:32, Dydd Gwener, 20 Chwefror 2009

Beth ar y ddaear sy'n bod ar gynghorwyr Llafur Caerdydd? Oes 'na firws yn y dwr, dwedwch?

Anghofiwch Ramesh Patel am eiliad. Ystyriwcharweinydd Grŵp Llafur y cyngor, Ralph Cook, ynghylch ffrae arall am ysgolion, y tro hwn yn nwyrain y ddinas.

Dyw addysg Gymraeg ddim yn ffactor y tro yma. Does dim angen elfen ieithyddol i gynddeiriogi'r Cynghorydd Cook.

"If the proposal is approved by the Assembly Government then the council will proceed with it at great risk. The costs are set to rise as the site will have to be secured like a fortress, builders will have to be paid danger money and supplies will be blockaded. The people feel that strongly about it."

Beth? Arweinydd y Grŵp Llafur yn proffwydo (neu'n bygwth) tor-cyfraith? Beth nesaf?

Yn wahanol i Rhodri Morgan dyw'r cynghorydd ddim yn gallu rhwystro ymchwiliad i'w sylwadau. Mae'n anodd dychmygu na fydd 'na gwyn swyddogol yn ei erbyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:43 ar 20 Chwefror 2009, ysgrifennodd Gareth:

    Dwi ddim yn Lafurwr o bell ffordd, ond rwy'n deall cryfder ei deimladau. Mae Llanrhymni yn gadarnle Llafur, a Thredelerch yr un mor Dorïaidd. Felly does dim pleidleisiau i'w colli gan y glymblaid drwy ddinistrio un o'r ychydig barciau cyhoeddus yn yr ardal -- sydd wrth reswm yn ennyn cryn ddicter yn lleol.

  • 2. Am 01:05 ar 21 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe wnes i osgoi trafod y pwnc penodol. Fy mhwynt yn syml yw bod 'na god ymddygiad ac am ryw reswm mae Llafur yng Nghaerdydd yn anwybyddu'r cod hwnnw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.