Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Iechyd Da

Vaughan Roderick | 15:34, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009

Yn ddiweddarach yn yr wythnos fe fydd tafarn newydd yn agor yng Nghaerdydd neu os ydych chi'n credu'r sbin fe fydd hen dafarn yn ail-agor dwy ganrif ar ôl iddi gau ei drysau.

Menter ddiweddaraf Clwb Ifor Bach yw'r "" ac mae wedi ei lleoli mewn adeilad hanesyddol gyferbyn a'r clwb. Dyma esboniad o'r enw.

"Yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y safai tafarn y Fuwch Goch ar Stryd Womanby. Yr enw Saesneg "Red Cow" a gofnodir ar gyfer yr hen dafarn, ac yr oedd ei harwydd mor amlwg fel i'r stryd ddwyn yr enw Saesneg "Red Cow Lane" am gyfnod. Fodd bynnag mae'n debyg mai'r "Fuwch Goch" oedd y lle ar lafar, gan fod yna gyfeiriad yn 1731 at un o'r ardalwyr dan yr enw "Dic y Fuwch". Efallai mai ef oedd y perchennog ar y pryd. Y sawl a wnaeth gyfeirio ato oedd Thomas Morgan, cyfreithiwr ac un o fân sgweieriaid y fro, oedd yn ymwelydd cyson a thafarn arall o'r enw Tŷ Coch, llai na chanllath i ffwrdd."

Rwy'n amau mae'r cyn aelod cynulliad Owen John Thomas, sy'n dipyn o feistr ar hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, sy'n gyfrifol am fedyddio'r lle. Os felly pob clod i'w enw! Mae adfer hen enw ar dafarn nid yn unig yn syniad da ond hefyd yn gwbwl groes i'r arfer diweddar melltigedig o newid enwau tafarn hanesyddol ar fympwy masnachol.

O fewn crôl tafarn i'r Fuwch Goch mae'r "Goat Major" (y "Blue Bell" gynt) yr "Yard" (yr "Albert") yr "Owain Glyndŵr" ( y "Tennis Courts"), "O' Neills" (y "Market Tavern") "Kitty Flynns" (y "Cambrian") a "Zync" (Y Terminus").

Yn wir prin yw'r tafarndai yng nghanol Caerdydd sy'n arddel eu henwau gwreiddiol. Y "Queens Vaults", y "King's Cross" a'r "Philharmonic" yw'r unig rai dw i'n gallu meddwl amdanyn nhw.

Mae'n beth rhyfedd bod angen caniatâd ar berchennog tafarn i newid ei oriau agor neu wneud newidiadau i'r adeilad ond does dim byd o gwbwl yn rhwystro newid enwau sydd, mewn rhai achosion, yn ganrifoedd oed.

Rydym i gyd wedi gwyllto o bryd i gilydd o weld enwau tai yn newid o "Awelon" i "The Pippins" neu o "Heulfryn" i "Rose Cottage." Dydw i ddim yn meddwl bod hi'n bosib rhwystro hynny ond oni fyddai'n bosib gwneud newid enwau tafarndai (a ffermydd o bosib) yn fater cynllunio oherwydd eu pwys hanesyddol?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:44 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Mi fyddwn wedi tybio bod y City Arms a'r Old Arcade wedi cadw eu henwau gwreiddiol.

  • 2. Am 17:11 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ti'n iawn...a'r "Golden Cross" hefyd. Ar y llaw arall "Wellingtons" yw'r "Duke of Wellington" "Barfly" yw'r "Rose and Crown" a'r "Trader's Tavern" yw'r "Panorama". Gallwn i fynd 'mlaen!

  • 3. Am 18:15 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Beth am y Model Inn, ydi hwnnw'n enw gwreiddiol, a Kitty Flynn's?

    Er, menter ariannol ydi prynu'r safle hwn. Ychydig fisoedd yn ol fel Shorepebbles roedd o'n gyrchfan hynod, hynod boblogaidd i Gymry Cymraeg (er nad tafarn Gymraeg na Chymreig oedd hi fel y cyfryw, ond roedd y berchnoges yn Gymraes ac yn ddynes boblogaidd iawn), yn benodol rhai a oedd yn mynd yno cyn/ar ol Clwb Ifor, neu rai a oedd wedi diflasu ar Glwb Ifor.

    Ar ol i'r lle gau doedd gan y perchnogion newydd fawr o feddwl o'r Cymry Cymraeg, a 'sdim rhyfadd eu bod nhw wedi mynd. Ond ta waeth am hynny, mae'n braf iawn gweld y lle'n ailagor a hynny fel lle y gall pobl gwrdd mewn awyrgylch Cymraeg ei iaith!

  • 4. Am 18:21 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd Chris Cope:

    Y Fuwch Goch a'r Mochyn Du -- y ddau'n dafarnau "Cymraeg." Dwi'n gweld thema yma. Tafarn Gymraeg nesaf: Y Ceffyl Glas

  • 5. Am 19:08 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    'Dwi'n gywir i gymryd mai'r Borough ydi'r Borough o hyd?

  • 6. Am 19:14 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ti'n nabod dy dafarndai...roeddwn wedi anghofio am y Borough a'r Cottage...llefydd bach rhyfedd!

  • 7. Am 09:39 ar 5 Chwefror 2009, ysgrifennodd Idris:

    A'r Rummers?

    Dwi'n cymryd nad Dempseys ydi enw gwreiddiol y lle hwnnw chwaith.

    Cytuno'n llwyr am y busnes newid enw, ac ar ol bod yn y Conway yn ddiweddar sydd wedi colli pob tamaid o'i gymeriad gwreiddiol ar ol 'renovation' erchyll, dwi bron a meddwl dylai yna fod orchymyn cadw ar yr ychydig dafarnau sydd yn parhau i fod ag unrhyw gymeriad gwreiddiol y tum mewn neu'r tu allan!

  • 8. Am 15:12 ar 11 Mehefin 2009, ysgrifennodd Geraint:

    Four Bars Inn oedd Dempsey's tan llai na ganrif yn ol. Dwi ddim yn meddwl fod Rummers wedi newid enw am sbel. Mae rhaid cofio bod tafarnau wedi bod yn newid enawu am ganrifoedd, nid rhywbeth modern ydy hwn.

    Fel gweithiwr fyddlon i'r Fuwch ac i Glwb dwi'n croesawi'r geiriau o gefnogaeth ac yn annog chi i gyd ddod i nosweithiau gerddoriaeth, comedi neu cwis ni. Mae gyda ni boteli o gwrw Cymraeg ar gael nawr, ac mae'r bwyd yno yn arbennig!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.