Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eira Gwyn a'r BNP

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Hyd yn oed fel plentyn ysgol gynradd roeddwn yn meddwl mai un o ganeuon Dafydd Iwan oedd y peth mwyaf hurt i mi glywed erioed.

"Dim ond ffŵl dydd yn gofyn pam fod eira'n wyn..." oedd cwyn trwbadŵr Cymru gyda thinc emosiynol yn ei lais. Ond roedd y Vaughan Roderick bach o'r farn bod "pam fod eira'n wyn" yn gwestiwn digon call a synhwyrol ac roeddwn yn sicr bod gwyddonwyr wedi gweithio'n galed i ganfod yr ateb.

Mewn gwirionedd mae'r gân yn enghraifft o un o'r pethau mwyaf peryg mewn gwleidyddiaeth. Yr hyn mae Dafydd yn dweud mewn modd blodeuog yw "peidiwch anghytuno a fi oherwydd fi sy'n iawn". Mae argyhoeddiad emosiynol a ffydd mewn achos yn bwysicach na rheswm a thystiolaeth.

Yn achos Dafydd, wrth reswm, mae credo o'r fath yn beth digon diniwed. Mae angen gwleidyddion o argyhoeddiad ar bob plaid ac mae safbwyntiau Dafydd yn tueddu bod ar ochor yr angylion.

Mae'r peryg yn dod pan mae plaid gyfan yn seilio'i athroniaeth ar emosiwn a'r gred mai "ni sy'n iawn" gan ddirmygu unrhyw un sy'n anghytuno a nhw neu unrhyw ddosbarth o bobol sy'n annerbyniol iddyn nhw.

Plaid felly yw'r BNP ac yn hanesyddol mae pleidiau o'r fath yn ffynnu yn ystod dirwasgiadau a chyfnodau o drafferth economaidd. Yn y cyd-destun hwnnw mae'r dirwasgiad presennol wedi dod ar adeg berffaith i'r blaid. Ymhen ychydig fisoedd fe fydd etholiadau Ewrop yn cael eu cynnal gan ddefnyddio system etholiadol sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau bod pleidiau llai yn cael eu cynrychioli. Hyd yma UKIP a'r Gwyrddion sydd wedi elwa o'r system honno ond mae'n ddigon posib y gallai'r BNP ennill seddi yn rhai o ranbarthau Lloegr y tro nesaf.

Mae'n bosib mai dyna yw un o'r rhesymau y mae gwleidyddion wedi bod yn gyndyn i gondemnio'r streiciau answyddogol ynghylch cyflogi gweithwyr tramor. Nid cymhellion hiliol sy'n wrth wraidd y protestiadau hynny ond mae'n ddigon hawdd dychmygu plaid sy'n wrth-Ewropeaidd ac yn erbyn mewnfudo yn ceisio manteisio ar bryderon digon dilys.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:03 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd dewi:

    Croeso nôl Vaughan - gobeithio bod popeth yn iawn gyda'r teulu. Dwyt ti heb golli llawer....

  • 2. Am 15:12 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Dwi'n falch fod yr undebau wedi cymryd rhan amlwg hyd yn hyn, oherwydd mae gobaith wedyn i gadw unrhyw ddadleuon hiliol allan o'r drafodaeth.

  • 3. Am 15:36 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd Richard Williams:

    Vaughan - wyt ti wedi gweld y newydd am ITV yn cau eu gwasanaeth o roi penawdau newyddion drwy BSL? Bydd hyn yn golygu diwedd gwasanaeth newyddion pwysig i ddefnyddwyr BSL yng Nghymru.

  • 4. Am 16:58 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe wnes i weld hynny. Nid fy lle i yw beirniadu ddarlledwr arall. Er bod y pennawdau yn rhai byr iawn dw i'n gwybod bod y gymuned fyddar yn cael eu hystyried yn bwysig iawn o sabwynt cydnabyddieth a bod yn weladwy. Mae yn ddiddorol gweld cymaint o blant ifanc yn defnyddio Makaton yn gwbwl naturiol oherwydd rhaglenni Cbeebies- datblygiad iach byswn i'n teimlo.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.