鶹Լ

Hafaliadau llinellauLlinellau perpendicwlar – Haen Ganolradd ac Uwch

Edrycha sut i blotio ym mhedwar pedrant graff a sut i lunio llinellau syth. Gallwn gasglu gwybodaeth am raddiant a safle’r llinellau, er enghraifft, a ydyn nhw’n baralel neu berpendicwlar ai peidio.

Part of MathemategAlgebra

Llinellau perpendicwlar – Haen Ganolradd ac Uwch

Bydd llinellau perpendicwlar bob amser yn croesi ar ongl sgwâr.

Er mwyn gweld a yw dwy linell yn berpendicwlar ai peidio, rhaid i ni’n gyntaf luosi eu graddiannau. Os yw’r llinellau’n berpendicwlar i’w gilydd, lluoswm eu graddiannau fydd -1.

Dywedwn fod \({M_{1} \times~M_{2} = -1}\), lle mae \({M_{1}}\) yn cynrychioli graddiant y llinell gyntaf a \({M_{2}}\) yw graddiant yr ail linell.

Graff gyda dwy linell solet yn croesi ar ongl sgwâr. Mae un llinell wedi ei labelu â 'Graddiant M1' a’r llall yn 'Graddiant M2'.

Enghraifft

A yw’r llinellau \(\text{y = x - 5}\) ac \(\text{y + x = 3}\) yn berpendicwlar i’w gilydd?

Yn gyntaf, rhaid i ni wneud yn siŵr bod y ddwy linell ar ffurf \(\text{y = mx + c}\)

Drwy ad-drefnu \(\text{y + x = 3}\) cawn \(\text{y = -x + 3}\).

Felly, mae \({M_{1} = 1}\) a \({M_{2} = -1}\).

\({M_{1} \times ~M_{2} = 1 \times -1 = -1}\).

Felly mae’r llinellau’n berpendicwlar.

Question

A yw’r llinellau \(\text{2y = x + 7}\) ac \(\text{y + 2x = 3}\) yn berpendicwlar?