Hafaliadau llinellauGraddiant graffiau llinell syth [Canolradd ac Uwch]
Edrycha sut i blotio ym mhedwar pedrant graff a sut i lunio llinellau syth. Gallwn gasglu gwybodaeth am raddiant a safle’r llinellau, er enghraifft, a ydyn nhw’n baralel neu berpendicwlar ai peidio.
llunia driongl ongl sgwâr o un pwynt i’r llall, gan ddefnyddio’r llinell fel hypotenws
canfydda uchder a lled y triongl
graddiant = uchder ÷ lled
Enghraifft
Mae'r triongl yn mynd o 2 i 8 ar yr echelin-\(\text{y}\) felly mae ganddo uchder o 6.
Mae’n mynd o 1 i 3 ar yr echelin-\(\text{x}\) felly mae ganddo led o 2.
\(\text{Graddiant =}~\frac{6}{2}~=~{3}\)
Question
Beth yw graddiant y llinell syth hon?
\(\text{Graddiant}~=~{2}\)
Graddiant positif a negatif
Gall graddiant fod yn bositif neu’n negatif. Mae’n dibynnu ar oledd y llinell.
Mae graddiant y llinell hon yn bositif, oherwydd wrth fynd o’r chwith i’r dde yng nghyfeiriad yr echelin-\(\text{x}\), mae’r gwerthoedd \(\text{y}\) yn cynyddu.
Mae graddiant y llinell hon yn negatif, oherwydd wrth fynd o’r chwith i’r dde yng nghyfeiriad yr echelin-\(\text{x}\), mae’r gwerthoedd \(\text{y}\) yn lleihau.
Mae’r triongl yn mynd o 8 i 4 ar yr echelin-\(\text{y}\), felly’r newid yn \(\text{y}\) yw -4. Mae’n mynd o 1 i 3 ar yr echelin-\(\text{x}\), felly’r newid yn \(\text{x}\) yw 2.