Edrycha sut i blotio ym mhedwar pedrant graff a sut i lunio llinellau syth. Gallwn gasglu gwybodaeth am raddiant a safle’r llinellau, er enghraifft, a ydyn nhw’n baralel neu berpendicwlar ai peidio.
Cyfesurynnau yw’r rhifau sy’n cael eu defnyddio i gynrychioli pwynt penodol ar graff. Maen nhw’n cael eu hysgrifennu fel \(\text{(x,~y)}\), lle mae’r rhif cyntaf yn cynrychioli’r safle i’r chwith neu i’r dde ar yr echelin-\(\text{x}\), ac mae’r ail rif yn cynrychioli’r safle i fyny neu i lawr ar yr echelin-\(\text{y}\).
Enghraifft
Cyfesurynnau pwynt P yw \(\text{(2,~1)}\) gan ei fod wedi symud 2 i’r dde ac 1 i fyny.
Pa bwynt sydd â chyfesurynnau \(\text{(-3,~4)}\)? Cofia fynd i’r chwith neu i’r dde ar gyfer y rhif cyntaf, yna i fyny neu i lawr ar gyfer yr ail rif.
Y pwynt yn \(\text{(-3,~4)}\) yw N.
Question
Gan ddefnyddio’r grid uchod, pa air mae’r cyfesurynnau hyn yn ei sillafu?