Â鶹ԼÅÄ

Graffiau llinell syth

Mae’n hawdd adnabod hafaliadau graffiau llinell syth. Fe fyddan nhw’n edrych fel un o’r rhain:

  • \(\text{x = a}\)
  • \(\text{y = b}\)
  • \(\text{y = cx + d}\)

lle mae a, b, c a d yn cynrychioli rhifau.

Er enghraifft, \(\text{x = 3}\), \(\text{y = -7}\), \(\text{y = 5x + 11}\)

Bydd llinellau ar ffurf \(\text{x = a}\) bob amser yn llinellau fertigol.

Enghraifft

Dyma’r llinell \(\text{x = 3}\):

Graff gydag echelinau x ac y o -8 i 8 yn dangos llinell fertigol solet gyda’r label x = 3.

Yn yr un modd, bydd llinellau ar ffurf \(\text{y = b}\) bob amser yn llinellau llorweddol.

y = cx + d

Gyda llinellau ar ffurf \(\text{y = cx + d}\), fel arfer bydd gofyn i ti gwblhau tabl gwerthoedd cyn i ti lunio’r graff.

Enghraifft

Beth am i ni edrych ar y llinell \(\text{y = x + 3}\).

Rhaid i ni gwblhau’r tabl er mwyn canfod y gwerthoedd sydd ar goll.

\(\text{x}\)-2-1012
\(\text{y = x + 3}\)23
\(\text{x}\)
-2
-1
0
1
2
\(\text{y = x + 3}\)
2
3

Pan fo \(\text{x = -2}\):

\(\text{y = -2 + 3 = 1}\)

Pan fo \(\text{x = 1}\):

\(\text{y = 1 + 3 = 4}\)

Pan fo \(\text{x = 2}\):

\(\text{y = 2 + 3 = 5}\)

Felly bydd ein tabl gwerthoedd gorffenedig yn edrych fel hyn:

\(\text{x}\)-2-1012
\(\text{y = x + 3}\)12345
\(\text{x}\)
-2
-1
0
1
2
\(\text{y = x + 3}\)
1
2
3
4
5

I lunio’r graff hwn, rhaid i ni feddwl am y gwerthoedd yn y tabl hwn fel cyfesurynnau.

Felly cyfesurynnau’r pwynt cyntaf fydd \(\text{(-2,~1)}\), cyfesurynnau’r ail bwynt fydd \(\text{(-1,~2)}\) ayyb.

Yna rydyn ni’n uno ein pwyntiau gyda llinell syth.

Graff gydag echelinau x ac y o -8 i 8 yn dangos llinell solet ar oledd yn croesi x-3 ac y3.

Question

Llenwa’r tabl a llunia graff \(\text{y = 3x - 1}\)

\(\text{x}\)-10123
\(\text{y = 3x - 1}\)-45
\(\text{x}\)
-1
0
1
2
3
\(\text{y = 3x - 1}\)
-4
5