鶹Լ

Graffiau cwadratig – Haen Ganolradd ac Uwch

\(\text{y = 5x}^2~\text{+~x~+~1}\)

Graff cwadratig yw unrhyw graff sydd â \(\text{x}^2\) yn ei hafaliad. Rydyn ni’n eu llunio mewn ffordd debyg iawn i graffiau llinell syth a bydd angen i ni amnewid gwerthoedd yn yr hafaliad. Bydd pob graff cwadratig ar ffurf cromlin.

Enghraifft

Rydyn ni eisiau llunio graff \(\text{y = x}^2~{+~3}\) felly bydd angen i ni gwblhau’r tabl gwerthoedd hwn:

\(\text{x}\)-3-2-10123
\(\text{y = x}^2~{+~3}\)
\(\text{x}\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(\text{y = x}^2~{+~3}\)
  • pan fo \(\text{x}\) = -3, \(\text{y}\) = (-3 × -3) + 3 = 12
  • pan fo \(\text{x}\) = -2, \(\text{y}\) = (-2 × -2) + 3 = 7
  • pan fo \(\text{x}\) = -1, \(\text{y}\) = (-1 × -1) + 3 = 4
  • pan fo \(\text{x}\) = 0, \(\text{y}\) = (0 × 0) + 3 = 3
  • pan fo \(\text{x}\) = 1, \(\text{y}\) = (1 × 1) + 3 = 4
  • pan fo \(\text{x}\) = 2, \(\text{y}\) = (2 × 2) + 3 = 7
  • pan fo \(\text{x}\) = 3, \(\text{y}\) = (3 × 3) + 3 = 12

Felly bydd ein tabl gwerthoedd gorffenedig yn edrych fel hyn:

\(\text{x}\)-3-2-10123
\(\text{y = x}^2~{+~3}\)127434712
\(\text{x}\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(\text{y = x}^2~{+~3}\)
12
7
4
3
4
7
12

I lunio’r graff hwn, rhaid i ni feddwl am y gwerthoedd yn y tabl hwn fel cyfesurynnau.

Felly cyfesurynnau’r pwynt cyntaf fydd \(\text{(-3,~12)}\), cyfesurynnau’r ail fydd \(\text{(-2,~7)}\) ayyb.

Yna rydyn ni’n uno’r pwyntiau â chromlin:

Graff yn dangos yr hafaliad y = x wedi ei sgwario + 3.

Question

Cwblha’r tabl a llunia graff \(\text{y = 2x}^2~{-~1}\).

\(\text{x}\)-3-2-10123
\(\text{y = 2x}^2~{-~1}\)
\(\text{x}\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(\text{y = 2x}^2~{-~1}\)