Edrycha sut i blotio ym mhedwar pedrant graff a sut i lunio llinellau syth. Gallwn gasglu gwybodaeth am raddiant a safle’r llinellau, er enghraifft, a ydyn nhw’n baralel neu berpendicwlar ai peidio.
Os cawn ni hafaliad y llinell yn hytrach na’r graff, mae’n dal yn bosib i ni ganfod y graddiant.
Yn y ffurf hon y cawn ni hafaliad llinell syth:
\(\text{y = 2x - 1}\)
Mae’r graddiant yn 2 a bydd y graff yn croesi’r echelin-\(\text{y}\) yn -1.
\(\text{y = -4x + 5}\)
Mae’r graddiant yn -4 a bydd y graff yn croesi’r echelin-\(\text{y}\) yn 5.
Gallwn ddefnyddio hwn hefyd i bennu hafaliad graff llinell syth.
Enghraifft
Mae angen i ni wybod y graddiant a’r rhyngdoriadRhyngdoriad llinell syth yw’r pwynt lle mae’n torri/croesi echelin. \(\text{y}\) er mwyn canfod hafaliad y llinell.
Graddiant = 3 ÷ 1 = 3
rhyngdoriad \(\text{y}\) = 1
Felly, hafaliad y llinell yw \(\text{y = 3x + 1}\)