Blog
Pwrpas blog yw trafod testun sydd o ddiddordeb i’r unigolyn. Gall fod yn trafod digwyddiad, taith, barn am bwnc penodol. Gall hefyd fod yn ffordd o adolygu ffilm neu nofel.
Iaith ac arddull
- Mae angen i ti ysgrifennu’n gronolegol.
- Dewisa deitl sy’n tynnu sylw ac yn crynhoi cynnwys y blog.
- Gan amlaf mae angen ysgrifennu yn y person cyntaf.
- Defnyddia iaith bob dydd yn hytrach na iaith ffurfiol.
- Cadwa’r gwaith yn syml gyda brawddegau byr.
Enghraifft o flog
Merched ysbrydoledig
Mae diwedd y flwyddyn yn adeg dda am restr, dydy? Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn merched arbennig. Dyma ddwy sydd wedi fy ysbrydoli i fwyaf.
Malala Yousafzai
Does dim angen dweud llawer am y ferch ifanc hon - mae ei henw yn ddigon i lenwi calon rhywun â balchder. Ddiwedd 2014 enillodd hi Wobr Heddwch Nobel a pharhaodd â’i gwaith angerddolTeimlo’n gryf am rywbeth. a’i hymgyrch i gael addysg gyfartal i bob merch. Yn ddeunaw oed, mae’r ferch hon wedi gwneud mwy o wahaniaeth yn y byd nag y gall y rhan fwyaf ohonom obeithio gwneud.
Amy Schumer
Nid yn aml y mae merched yn ennill eu plwyfGwneud yn dda. ym myd comedi mor fuan yn eu gyrfa ag y mae Amy Schumer wedi’i wneud. Mi ysgrifennodd hi ac actio yn y ffilm Trainwreck a dderbyniodd glod mawr gan feirniaid ym mhob man. Mae’r ffilm yn torri tir newydd o ran newid y ffordd esgyrnaidd y mae merched mewn comedi, ac yn fwy penodol mewn comedïau rhamantus, yn Hollywood yn cael eu portreadu.