Â鶹ԼÅÄ

Erthygl

Beth yw erthygl?

Pwrpas erthygl yw trafod rhywbeth sydd wedi digwydd. Mae sawl math gwahanol o erthygl, ee cylchgrawn, papur newydd neu ar y we. Mae erthygl dda yn cynnwys digon o fanylion ac yn crynhoi’r prif ddigwyddiadau pwysig.

Iaith ac arddull

  • Dewis pennawd trawiadol.
  • Dweud beth sydd wedi digwydd yn syml, yn drefnus ac yn glir.
  • Rhaid ateb y cwestiynau: pwy? beth? ble? pryd? pam? sut?
  • Gall erthygl fod wedi cael ei hysgrifennu yn y presennol neu’r gorffennol.
  • Rhaid ysgrifennu’r erthygl yn y trydydd person, ee ef, hi, nhw, ei, eu.
  • Weithiau bydd angen i ti ddefnyddio geiriau ac ymadroddion technegol.
  • Mae angen i ti ddefnyddio berfau amhersonol.

Enghraifft o erthygl papur newydd

Wrecsam yn Ennill

Ionawr 23, 2016

Wrecsam 3–1 Lincoln

Daeth rhediad gwael Wrecsam i ben gyda dros Lincoln ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Doedd y Dreigiau heb ennill mewn pedair gêm yn y Gynghrair Genedlaethol cyn ymweliad Lincoln ond roedd goliau York, Jennings a Heslop yn ddigon i ddod â’r rhediad hwnnw i ben.

Rhoddodd Matt Rhead yr ymwelwyr ar y blaen yn y chwarter awr cyntaf yn dilyn trosedd Rhys Taylor ar Jack Muldoon.

Roedd Wrecsam yn gyfartal cyn yr egwyl, serch hynny, diolch i beniad Wes York o groesiad Connor Jennings.

Jennings ei hun sgoriodd i roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, yn manteisio wedi i Paul Farman yn y gôl wneud smonach o groesiad Dominic Vose.

Cafodd Lincoln gyfleoedd wedi hynny ond roedd Taylor yn cael gêm dda yn y gôl i Wrecsam, a roedd y tri phwynt yn ddiogel i’w dîm bum munud o’r diwedd diolch i ergyd Simon Heslop o bellter.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam dros Lincoln i’r degfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, ond maent yn parhau chwe phwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.

Question

Darllena’r enghraifft o erthygl papur newydd uchod yna ateba’r cwestiynau yma:

  • Pwy?
  • Ble?
  • Pryd?
  • Pam?
  • Sut?