鶹Լ

Ffurfio casgliad – chwilio am batrymau

Chwilio am batrymau, tueddiadau a chydberthyniadau mewn graffiau

Yn y rhan hon o'r papur, bydd rhaid i ti ddadansoddi dy ddata ac awgrymu neu gadarnhau perthynas rhwng y newidyn annibynnol (A), a'r newidyn dibynnol (B). Dyma rai enghreifftiau o berthnasoedd o graffiau.

Dim cydberthyniad rhwng newidynnau A a B.

Mae newidyn A yn newid, dydy B ddim yn newid.

Mae newidyn B yn annibynnol ar newidyn A.

Graff ag echelin x gyda'r label A, ac echelin y gyda'r label B.  Mae llinell lorweddol  wedi’i thynnu ar draws o echelin y.

Cyfrannedd union rhwng A a B.

Mae A yn newid, mae B yn newid â'r un gymhareb, ee os yw A yn dyblu, mae B yn dyblu hefyd.

Mae graff sy'n dangos cyfrannedd union yn llinell syth sy'n codi ac yn mynd drwy'r tarddbwynt.

Un enghraifft o hyn fyddai os mai A yw'r grym cydeffaith ar droli dynameg a B yw cyflymiad y troli. Mae cyflymiad y troli mewn cyfrannedd union â'r grym cydeffaith.

Graff ag echelin x gyda'r label A, ac echelin y gyda'r label B. Mae llinell wedi’i thynnu am i fyny o'r tardd.

Mae A a B mewn cyfrannedd â'i gilydd.

Mae newidyn A yn newid o swm rheolaidd, ac mae B hefyd.

Dydy'r graff ddim yn mynd drwy'r tarddbwynt.

Un enghraifft o hyn fyddai os yw A yn bwysau sy'n cael ei ychwanegu at sbring a B yw hyd y sbring. Mae hyd y sbring mewn cyfrannedd â'r pwysau sy'n cael ei ychwanegu ato.

Graff ag echelin x gyda'r label A, ac echelin y gyda'r label B. Mae croeslin yn mynd am i fyny o un pwynt ar echelin y.

Mae cydberthyniad positif cynyddol rhwng newidynnau A a B.

Mae A yn cynyddu o swm rheolaidd.

Mae B yn cynyddu ar gyfradd sy'n cynyddu.

Graff ag echelin x gyda'r label A, ac echelin y gyda'r label B. Mae llinell grom wedi’i thynnu o'r tardd yn llorweddol gan godi am i fyny.

Mae cydberthyniad positif lleihaol rhwng newidynnau A a B.

Mae A yn cynyddu o swm rheolaidd.

Mae B yn cynyddu ar gyfradd sy'n lleihau.

Graff ag echelin x gyda'r label A, ac echelin y gyda'r label B. Llinell grom sy'n mynd o'r tardd yn fertogol ac yna'n wastad.

Mae newidynnau A a B yn dangos cydberthyniad negatif â'i gilydd.

Mae A yn cynyddu o swm rheolaidd.

Mae B yn lleihau o swm rheolaidd.

Graff ag echelin x gyda'r label A, ac echelin y gyda'r label B. Mae croeslin wedi’in thynnu i lawr o echelin y at echelin x.

Mae newidynnau A a B mewn cyfrannedd gwrthdro â'i gilydd.

Wrth i A gynyddu, mae B yn lleihau.

Wrth i A ddyblu, mae B yn haneru.

Un enghraifft o hyn fyddai os mai A oedd màs troli dynameg a B oedd cyflymiad y troli. Mae cyflymiad y troli mewn cyfrannedd gwrthdro â màs y troli.

Graff ag echelin x gyda'r label A, ac echelin y gyda'r label B. Llinell geugrwm sy'n mynd o B i A yn fertigol.