鶹Լ

Asesiad risg

Bydd rhaid i ti, o bosibl, gwblhau ffurflen asesu risg cyn cynnal yr ymchwiliad.

Mae asesiad risg yn cynnwys tair rhan – perygl, risg a mesur rheoli.

Dyma enghraifft o asesiad risg.

Enghraifft o ffurflen asesiad risg wedi ei argraffu ar bapur.

Yn gyntaf, rhaid i ti ganfod unrhyw beryglon posibl. Mewn geiriau eraill, canfod yr 'aw'. Bydd hyn yn rhywbeth a allai dy frifo di neu rywun arall, a'i ffynhonnell. Er enghraifft, gallai lamp boeth achosi llosgiadau.

Yn ail, rhaid i ti nodi beth yw'r risg. Beth sy’n debygol o achosi’r 'aw'? Beth allet ti ei wneud i dy frifo dy hun? Yn yr enghraifft hon, efallai, cyffwrdd â lamp boeth iawn wrth ei symud hi. Symud y lamp fyddai'r rheswm pam byddet ti neu rywun arall yn llosgi.

Yna, mae'n rhaid i ti feddwl am fesur rheoli. Mae hyn yn golygu gofyn i ti dy hun, sut i osgoi'r 'aw'? Os mai'r risg, fel yn yr enghraifft hon, yw risg o losgi ar lamp boeth, y mesur rheoli fyddai gadael i'r lamp oeri cyn ceisio ei symud neu afael ynddi.