鶹Լ

Gwneud mesuriadau a'u cofnodi nhw

Bydd angen i ti greu tabl i gofnodi dy ganlyniadau.

  • Fel arfer, mae'r newidyn annibynnol (hynny yw, y pwysau yn yr ymchwiliad hwn) yn cael ei ysgrifennu yn y golofn ar y chwith.
  • Mae angen rhoi penawdau llawn ag unedau cywir ar y tabl.
  • Oni bai bod rhywun yn dweud wrthyt ti nad oes angen ailadrodd canlyniadau, dylai'r tabl ddangos nifer o ailadroddiadau a chynnwys colofn i gyfrifo'r cymedr.
  • Dylid ysgrifennu’r holl ganlyniadau sydd wedi'u mesur yn y tabl i'r un nifer o leoedd degol sy'n cyfateb i drachywiredd yr offeryn mesur. Mae amedrau, foltmedrau a stopglociau digidol fel rheol yn cofnodi i'r 0.01 eiliad agosaf, felly mae'n rhaid i ti gofnodi darlleniad llawn yr offeryn, ee 1.32 s, nid 1.3 s neu 1 s.
  • Dylai'r tabl gynnwys digon o werthoedd ar gyfer y newidyn annibynnol i dy alluogi di i brofi'r rhagfynegiad gwreiddiol.
  • Dylet ti geisio defnyddio'r amrediad mwyaf posibl heb ddifrodi'r cyfarpar (er enghraifft, paid â gorymestyn y sbring, na rhoi gormod o foltedd ar draws bwlb).

Gallai dy dabl edrych yn debyg i'r un hwn.

Tabl â saith colofn wedi'u labelu â Grym (N), Amser 10 tro (s) ac Amser Cymedrig 10 tro (s). Mae gan yr ail golofn fwy o grwpiau, sef Grŵp 1, Grŵp 2, Grŵp 3, Grŵp 4, a Grŵp 5.

Cyn gynted â dy fod ti wedi ysgrifennu'r canlyniadau, bydd angen i ti wirio a oes gen ti unrhyw ddarlleniadau .

Dylai'r holl ddarlleniadau ar draws y tabl fod yn eithaf tebyg i'w gilydd os ydyn nhw'n ailadroddadwy. Os yw unrhyw ganlyniad yn llawer uwch neu is, dylet ti roi llinell drwyddo, a pheidio â'i gynnwys wrth gyfrifo cymedr y rhes honno.