Maint sampl a chanlyniadau afreolaidd
Canlyniad afreolaidd yw canlyniad sydd ddim yn cyd-fynd â phatrwm y canlyniadau eraill. Mae'n anomaledd.
Bydd ailadrodd y mesuriadau lawer gwaith, neu greu maint sampl mawr i'w ddadansoddi, yn gwella cywirdeb. Mae hi'n hawdd sylwi ar ganlyniadau afreolaidd yn y data a'u tynnu nhw allan, gan arwain at gyfrifiad mwy manwl gywir o'r cymedr.
Edrych ar y chwe chanlyniad canlynol a gafodd eu cymryd gan ddisgybl.
0.63, 0.71, 0.64, 0.69, 1.20, 0.67
Y canlyniad afreolaidd yw 1.20. Mae'n rhy uchel o'i gymharu â'r canlyniadau eraill.
Question
Cyfrifa gymedr y canlyniadau heb y darlleniad afreolaidd.
Cymedr y pump canlyniad arall yw (0.63 + 0.71 + 0.64 + 0.69 + 0.67) ÷ 5 = 0.668 wedi'i dalgrynnu i 0.67.
Camerâu arafu lluniau
Weithiau, efallai bydd rhywbeth yn symud yn rhy gyflym i ni gymryd darlleniad cywir.
Gallwn ni ddefnyddio camera arafu lluniau i ffilmio pêl sy'n bownsio i fyny yn erbyn graddfa i weld yr uchder mae'r bêl yn ei gyrraedd.
Bydd hyn yn gwella manwl gywirdeb y mesuriad.