鶹Լ

Gwella dy fesur

Trachywiredd ac ansicrwydd

Ceisia fesur yn fwy manwl gywir. Defnyddia offeryn â chydraniad llai, a'i ddarllen at y darlleniad lleiaf posibl.

Dau bren mesur. Mae pren mesur A yn mesur i'r milimetr agosaf. Mae pren mesur B yn mesur i’r centimetr agosaf.

Bydd pren mesur A yn rhoi darlleniad mwy manwl gywir ac yn lleihau'r ansicrwydd yn dy ganlyniad.

Mae ansicrwydd o 1 mm mewn 25 mm yn 4 %.

Mae ansicrwydd o 1 cm mewn 2.5 cm yn 40 %. Mae hyn ddeg gwaith yn fwy.

Sut rydyn ni'n cyfrifo ansicrwydd?

\({\%{\text{~ansicrwydd y darlleniad}}}=\frac{\text{cydraniad yr offeryn}\times 100\%}{\text{darlleniad}}\)

Y cydraniad yw'r rhaniad lleiaf ar yr offeryn.

Question

Beth yw ansicrwydd cydraniad o 0.01 ml mewn 5.52 ml?

Question

Beth yw ansicrwydd cydraniad o 0.5 ml mewn 5.5 ml?