Deiet cytbwys
Dyma鈥檙 tri maetholyn y mae angen y mwyaf ohonynt:
- carbohydradau
- proteinau
- lipidau (brasterau ac olewau)
Dyma faetholion eraill y mae angen llai ohonynt:
- fitaminau
- mwynau
- ffibr deietegol
- 诲诺谤
I gael y maetholion hyn mae bodau dynol, fel hollysyddion, yn bwyta deiet amrywiol.
Carbohydradau, proteinau a lipidau
Dyma ffynonellau a phrif swyddogaethau gwahanol gyfansoddion deiet cytbwys.
Fitaminau
Dim ond ychydig iawn o fitaminau sydd eu hangen i gadw鈥檙 corff yn iach. Mae prinder fitaminau yn y deiet yn arwain at symptomau diffyg.
Fitamin C
Mae angen fitamin C (asid asgorbig) i helpu i wella clwyfau a chadw meinwe gyswllt iach (sy鈥檔 helpu i gynnal meinweoedd ac organau eraill).
Mae ffynonellau da o fitamin C yn cynnwys:
- ffrwythau sitrws, ee orenau, lemon a leim
- llysiau deiliog gwyrdd, ee ysgewyll a brocoli
Mae diffyg fitamin C yn achosi鈥檙 llwg (sgyrfi). Mae symptomau鈥檙 llwg yn cynnwys deintgig yn gwaedu ac yn chwyddo, colli dannedd, blinder a phoenau yn y cymalau.
脧onau mwynol
Ychydig iawn o 茂onau mwynol sydd eu hangen, yr un fath 芒 fitaminau, i gadw鈥檙 corff yn iach. Mae prinder 茂onau mwynol cywir yn y deiet hefyd yn achosi symptomau diffyg.
Haearn
Mae angen haearn i gynhyrchu haemoglobin, sydd i鈥檞 gael yng nghelloedd coch y gwaed.
Mae ffynonellau da o haearn yn cynnwys:
- afu/iau
- cig coch
- ffa a chnau
- ffrwythau sych, ee bricyll sych
Mae diffyg haearn yn achosi anaemia. Mae pobl ag anaemia yn mynd yn flinedig a gwan oherwydd dydy eu gwaed ddim yn cario digon o ocsigen.
顿诺谤 a ffibr deietegol
Mae 诲诺谤 a ffibr deietegol (bwyd garw) hefyd yn gyfansoddion pwysig mewn deiet.
顿诺谤
Mae tua dwy ran o dair o鈥檙 corff dynol yn d诲诺谤. Mae 诲诺谤 yn cytoplasmY sylwedd byw y tu mewn i gell (heb gynnwys y cnewyllyn). ein celloedd ac mae yn hylifau鈥檙 corff, er enghraifft, y gwaed.
Mae ffynonellau 诲诺谤 yn cynnwys:
- bwyd
- diodydd
- prosesau metabolaidd, ee resbiradaeth aerobig
Ffibr deietegol
Ffibr deietegol ydy deunydd mewn bwyd sy鈥檔 methu 芒 chael ei dreulio, yn enwedig cellwlos o gellfuriau planhigion.
Mae ffynonellau ffibr yn cynnwys:
- ffrwythau
- llysiau
- grawnfwyd
Mae ffibr deietegol yn bwysig am ei fod yn sicrhau bod digon o swmp yn y bwyd, ac mae鈥檔 helpu waliau鈥檙 coluddyn i symud bwyd ac ymgarthion ar hyd y coludd. Mae diffyg ffibr digonol yn gallu achosi rhwymedd.