Â鶹ԼÅÄ

Cefndir a chyd-destun

Cafodd y bardd ei fagu yn Llanrwst, sydd ond ddeng munud o daith o leoliad y gerdd hon, Coed Llugwy. Mae’n addas felly ei fod yn dychwelyd i’r ardal gyda’i fab ei hun, flynyddoedd yn ddiweddarach. Wrth fynd am dro gyda’i fab ar fore hyfryd o hydref cawn gipolwg ar ddylanwad estroniaid ar y llecyn prydferth hwn.

Map yn dangos lle mae Betws-y-Coed, mewn perthynas â rhannau eraill o Ogledd Cymru.
Figure caption,
Map o ogledd Cymru

Mae twristiaeth yn rhan bwysig iawn o ddiwydiant Cymru. Mae nifer o drigolion pentrefi fel Betws-y-Coed yn dibynnu ar dwristiaeth ar gyfer eu bywoliaeth. Ond, yn ogystal â gwario eu harian yma, mae’r bardd yn honni fod twristiaid a’r mewnfudwyr hefyd yn gadael eu marc yn llythrennol ar ardal, a hynny oherwydd eu bod yn llygru drwy adael eu sbwriel ar ôl.

Yn ogystal, mae’r ymwelwyr yn dylanwadu’n negyddol ar ein hiaith a’n diwylliant. Prin yw’r defnydd o’r enwau Cymraeg ar ardaloedd bellach. Yn anffodus, mae’r awydd i ddenu twristiaid yn aml yn cael blaenoriaeth dros ein hawydd i barchu a gwarchod ein hiaith.

Cred y bardd mai ein cyfoeth naturiol mwyaf gwerthfawr yw ein hiaith. Mae yma lygedyn o obaith ar ddiwedd y gerdd felly wrth i’r tad drosglwyddo’r iaith hon i’w fab drwy ddysgu geirfa gyfoethog am y coed iddo.