麻豆约拍

Soned

Mae mesur y soned yn fwy caeth na cherdd ar fydr ac odl am fod yna reolau pendant i鈥檙 mesur, ond nid oes cynghanedd ynddi.

Mae鈥檙 soned yn fesur poblogaidd. Mae Y Llwynog gan R Williams Parry a T欧鈥檙 Ysgol gan T H Parry Williams yn rhai enwog.

Y math mwyaf poblogaidd o soned yw'r soned Shakespearaidd. Mae wedi ei henwi ar 么l y dramodydd enwog, William Shakespeare, a oedd yn defnyddio鈥檙 patrwm yn rheolaidd.

Beth yw patrwm soned Shakespeare? Edrycha ar y soned Ofn gan Hywel Griffiths.

Diagram i arddangos strwythur soned.
  • Mae 14 llinell mewn soned.
  • Mae鈥檔 dilyn patrwm odli: a b a b c ch c ch d dd d dd e e
  • Mae deg sillaf ymhob llinell.
  • Mae soned wedi ei rhannu鈥檔 ddwy. Yr wyth llinell gyntaf sef wythawd a鈥檙 chwe llinell olaf sef chwechawd. Fel arfer, mae naws neu gyfeiriad y gerdd yn newid ar 么l y volta, sef llinell anweledig rhwng yr wythawd a鈥檙 chwechawd.

Question

Mae dewis y mesur addas ar gyfer cerdd yn bwysig i adlewyrchu testun y gerdd. Pam dewisodd Hywel Griffiths mesur y soned i Ofn?