Â鶹ԼÅÄ

Ysgrifennu cyfarwyddiadau

Iaith ac arddull cyfarwyddiadau

  • Rhaid bod yn drefnus a nodi’r cyfarwyddiadau mewn trefn .
  • Rhaid symud o gam i gam yn ofalus.
  • Rhaid i ti gymryd yn ganiataol nad yw’r person sy’n darllen yn gwybod unrhywbeth am y pwnc.
  • Mae angen i ti ddefnyddio gorchmynion mewn cyfarwyddiadau.
  • Rhaid ystyried y gynulleidfa – wyt ti’n siarad ag un person/mwy nag un?

Question

Llenwa'r bylchau yn y tabl isod:

UnigolLluosog
Gwranda
Rhowch
Cer/Dos
Ystyria
Cerddwch
UnigolGwranda
Lluosog
Unigol
LluosogRhowch
UnigolCer/Dos
Lluosog
UnigolYstyria
Lluosog
Unigol
LluosogCerddwch

Dyma enghraifft dda o gyfarwyddiadau teithio:

Wrth y gylchfan gyntaf (ar ôl tua 1.1 milltir) ewch yn syth ymlaen (sef yr ail allanfa - nid yw'r fynedfa gyntaf yn ffordd drwodd) gan fynd ymlaen am y gorllewin. Ewch yn syth ymlaen ar draws y gyffordd sydd â goleuadau traffig (Ffatri Visteon ar y dde). Ewch yn syth ymlaen ar draws y gyffordd nesaf sydd â goleuadau traffig (Dociau Abertawe ar y chwith a maes Parcio a Theithio i'r dde - 3.8 milltir). Ewch yn syth ymlaen ar draws y gyffordd sydd â goleuadau traffig, dros y bont dros Afon Tawe (A4067) ar gyffiniau deheuol canol y ddinas (4.6 milltir).

Geirfa ddefnyddiol i nodi trefn ac amser:

  • yn gyntaf
  • yn ail
  • wedyn
  • nesaf
  • ar ôl
  • tra