Ysgrifennu rysáit
Gan amlaf mae rysáit yn rhoi cyfarwyddiadau am sut i goginio pryd o fwyd.
Iaith ac arddull rysáit
- Mae angen i ti ddefnyddio berfau gorchmynnol ar ddechrau pob cam.
- Rhaid nodi’n glir pa gynhwysion/offer sydd eu hangen.
- Rhaid ysgrifennu camau clir byr sy’n nodi’r prif fanylion.
Cofia fod angen treiglo’n feddal ar ôl berfau gorchmynnol.
Question
Cywira’r brawddegau isod:
Rhowch llwyaid o laeth.
Ychwanegwch mymryn o halen.
Cymysgwch gweddill y cynhwysion.
Rhowch lwyaid o laeth.
Ychwanegwch fymryn o halen.
Cymysgwch weddill y cynhwysion.
Dyma enghraifft o rysáit