鶹Լ

Ymasiad niwclear

Mae'n rhaid i'r niwclysau fynd yn agos iawn at ei gilydd er mwyn gwrthdaro, sef tua miliwn miliwnfed o filimetr. Os yw'r niwclysau'n symud yn gyflym iawn, maen nhw'n gallu goresgyn y gwrthyriad electrostatig. Y poethaf yw moleciwl, y cyflymaf y bydd yn symud, a'r mwyaf tebygol ydyw o wrthdaro.

Mae'r Haul a sêr eraill yn defnyddio ymasiad niwclear i ryddhau egni. Mae dilyniant yr adweithiau ymasiad niwclear mewn seren yn gymhleth, ond yn gyffredinol, mae niwclysau hydrogen yn uno i ffurfio niwclysau heliwm.

Un adwaith ymasiad niwclear sy'n digwydd yw niwclysau hydrogen-1 yn asio â niwclysau hydrogen-2 i wneud niwclysau heliwm-3.

\(_{1}^{1}\textrm{H} +_{1}^{2}\textrm{H}\rightarrow_{2}^{3}\textrm{He}\)

Mae niwclews Hydrogen-1 yn gwrthdaro â niwclews Hydrogen-2 gan gynhyrchu Heliwm-3.
Figure caption,
Adwaith ymasiad niwclear yn dangos y niwclysau sy'n cymryd rhan
Dau ddyn mewn dilad gwarchod yn gweithio yn siambr mewnol adweithydd ymasiad
Image caption,
Tu mewn i adweithydd ymasiad

Er mwyn i adweithydd ymasiad niwclear weithio, byddai angen tymheredd a gwasgedd uchel iawn. Mae'n anodd iawn atgynhyrchu tymheredd a gwasgedd mor uchel â hyn, ac yn ddrud iawn. Felly, dydyn ni ddim yn agos at allu defnyddio ymasiad fel ffynhonnell egni. Y prif gynlluniau yn Ewrop ar hyn o bryd yw'r cyfleuster Joint European Torus (JET) yn y Deyrnas Unedig a'r International Thermonuclear Experimental Reactor (ITER), sy'n cael ei adeiladu yn Ffrainc.

Yn yr adweithydd Tokamak mae'r niwclysau dewteriwm a thritiwm yn cael eu cyflymu ar fuanedd uchel iawn o gwmpas yr adweithydd, gan wrthdaro â digon o egni i achosi ymasiad niwclear a fydd yn rhyddhau egni.

\(_{1}^{2}\textrm{H} +_{1}^{3}\textrm{H}\rightarrow_{2}^{4}\textrm{He}+_{0}^{1}\textrm{n}\)

Mae'r niwtron a'r niwclews heliwm yn symud yn gyflym iawn, ond mae'r niwtronau'n gallu rhyngweithio â'r defnydd sy'n gwneud y Tokamak, gan ei droi'n ymbelydrol. Felly, mae angen gwarchod yr adweithydd â choncrit i atal yr ymbelydredd, yn ogystal â defnyddio laser ar gyfer cyfyngiant inertiaidd. Dydy'r technolegau hyn ddim yn ddichonadwy ar hyn o bryd, oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu cynhyrchu mwy o egni nag sydd ei angen i gychwyn a chynnal adwaith ymasiad.