鶹Լ

Cynhyrchu pŵer o danwyddau niwclear

Mae adweithyddion niwclear yn defnyddio'r gwres o adweithiau niwclear yn y tanwydd niwclear i ferwi dŵr. Fel mewn gorsafoedd trydan confensiynol, mae'r ager o'r dŵr berwedig yn troelli tyrbin, sydd yn ei dro'n troi'r generadur.

Yn wahanol i orsafoedd trydan confensiynol, fodd bynnag, dydy atomfeydd ddim yn rhyddhau carbon deuocsid, felly dydy eu defnyddio nhw ddim yn cyfrannu at gynhesu byd-eang.

Caiff oerydd ei chwistrellu drwy'r gwaelod. Mae'n pasio trwy ddysgl yr adweithydd a thrwy fylchau'r craidd graffit sy'n dal rhodenni rheoli symudol. Daw'r oerydd poeth allan.
Figure caption,
Amlinelliad o adweithydd niwclear

Mae yn yr adweithydd ei hun yn cael ei atal rhag dianc gan furiau dur a choncrit. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae yn gallu achosi canser.

Mae'r gwastraff o atomfeydd yn ymbelydrol felly mae hwn yn gallu bod yn niweidiol hefyd. Mae plwtoniwm yn un o gynhyrchion gwastraff adweithyddion niwclear. Gellir ei ddefnyddio i wneud bomiau niwclear.