鶹Լ

Rheoli'r adwaith

Er mwyn osgoi adweithiau niwclear fel y rhai sy'n digwydd mewn bomiau niwclear, rhaid i ni reoli'r adwaith niwclear mewn atomfeydd.

Rhodenni rheoli

Y cymedrolydd a'r , gyda'i gilydd, sy'n rheoli cyfradd yr adwaith yng nghraidd yr adweithydd niwclear.

Mae'r rhan fwyaf o adweithyddion niwclear yn defnyddio dŵr fel cymedrolydd, sydd hefyd yn gallu gweithredu fel oerydd, ond mae rhai'n defnyddio rhodenni graffit.

Rhodenni amsugno

Rhodenni sy'n amsugno niwtronau yw'r rhodenni rheoli, ac maen nhw'n cael eu rhoi yn y bylchau rhwng y rhodenni tanwydd. Maen nhw wedi'u gwneud o ddefnyddiau fel boron.

Mae'r rhodenni rheoli'n gallu cael eu symud i lawr i mewn i'r adweithydd, sy'n arafu'r adwaith drwy amsugno mwy o'r niwtronau, neu eu symud i fyny i amsugno llai o'r niwtronau, sy'n golygu bod yr adwaith yn aros yn gyson ac nad oes ffrwydradau'n digwydd.

Mae'r rhodenni tanwydd niwclear mewn adweithydd yn gallu bod yn ymbelydrol am amser hir iawn, ac mae'n rhaid eu storio nhw'n ofalus iawn.