鶹Լ

Cofnodion

Beth yw pwrpas cofnodion?

Pwrpas cofnodion yw esbonio’r hyn a gafodd ei drafod mewn cyfarfod a nodi beth yw’r camau gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf. Gan amlaf, swydd yr ysgrifennydd cofnodion yw creu dogfen i bobl eraill ei darllen sy’n crynhoi gweithredoedd a phenderfyniadau’r cyfarfod.

Iaith ac arddull

  • Rhaid i ti ateb y cwestiynau pwy, pryd, ble, faint a pham.
  • Rhaid i ti ddefnyddio iaith ffurfiol.
  • Bydd angen i ti ysgrifennu yn y gorffennol a defnyddio berfau amhersonol.
  • Does dim angen barn - dim ond nodi’r ffeithiau.
  • Rhaid nodi prif benderfyniadau y cyfarfod.

Question

Newidia y brawddegau yma i’r amhersonol:

Cafodd y cyfarfod ei gynnal.

Roedd y bachgen wedi cael ei gosbi.

Cafodd y ci ei fwydo.

Mae’r ystafell wedi cael ei pheintio.

Cafodd y dyn ei arestio yn y gêm.

Roedd y ddynes wedi cael ei rhybuddio.

Cafodd y nofel ei hysgrifennu gan Bethan Gwanas.

Enghraifft o gofnodion cyfarfod

1.1 Ethol swyddogion newydd

Etholwyd Guto Jones yn Gadeirydd. Cynigwyd ei enw gan Kevin Hughes. Diolchodd Guto am yr anrhydedd a nododd ei fod yn addo rhoi o’i orau yn ystod y flwyddyn.

Yn yr un modd, ail etholwyd Iona Parry yn ysgrifenyddes. Derbyniodd y swydd gan ddiolch i bawb am eu cymorth yn ystod y flwyddyn.

1.2 Capten

Diolchwyd i Martin Smith am ei holl waith, ac etholwyd Dorian Pugh yn gapten am y flwyddyn nesaf. Derbyniodd y swydd.

Ni dderbyniwyd enwau eraill ar gyfer y swyddi uchod.