鶹Լ

Adroddiad

Beth yw adroddiad?

Pwrpas adroddiad yw esbonio rhywbeth sydd wedi digwydd. Mae sawl math gwahanol o adroddiad, ee adroddiad mewn cylchgrawn, papur newydd, ar y we neu ar y radio. Mae adroddiad da yn cynnwys digon o fanylion ond eto yn crynhoi’r prif ddigwyddiadau pwysig.

Iaith ac arddull

  • Dewis pennawd .
  • Dweud beth sydd wedi digwydd yn syml, yn drefnus ac yn glir.
  • Rhaid ateb y cwestiynau: pwy, beth, ble, pryd, pam a sut.
  • Gall adroddiad fod wedi cael ei ysgrifennu yn y presennol neu’r gorffennol.
  • Rhaid ysgrifennu’r adroddiad yn y trydydd person: – ef/hi/nhw.
  • Weithiau bydd angen i ti ddefnyddio geiriau ac ymadroddion technegol.
  • Medri ddefnyddio berfau amhersonol: dywedwyd/credir/honnir.

Ymarfer y berfau amhersonol

Question

Newidia'r berfenwau hyn yn ferfau amhersonol yn y gorffennol.

BerfenwBerf
Cael
Rhoi
Agor
Penderfynu
Cyhoeddi
BerfenwCael
Berf
BerfenwRhoi
Berf
BerfenwAgor
Berf
BerfenwPenderfynu
Berf
BerfenwCyhoeddi
Berf

Enghraifft o adroddiad

Llafur plant a’r diwydiant ffasiwn

Yn 2007 datgelodd The Observer fod plant yn India yn cael eu gorfodi i frodio blowsys merched a oedd yn cael eu gwerthu gan y cwmni dillad GAP. Cyhoeddwyd tystiolaeth fod y plant hyn, a oedd mor ifanc â deg oed, yn cael eu gorfodi i weithio am ddim am hyd at 16 awr y dydd, ac yn cael eu curo â pheipen rwber os oeddent yn cwyno. Mynnodd y cwmni nad oeddent yn ymwybodol o hyn ac aethant ati ar unwaith i wneud yn siŵr nad oedd y blowsys yn cyrraedd y siopau.

[Ffynhonnell: The Guardian]

H&M a ZARA dan feirniadaeth

Yn 2009 cyhuddwyd H&M a ZARA o werthu dillad a oedd wedi’u gwneud o gotwm a oedd yn cael ei gasglu gan blant. Mae’n debyg fod plant ifanc yn Uzbekistan a Bangladesh yn cael eu gorfodi i weithio am ddim yn casglu cotwm yn y caeau, a bod y cotwm hwn yn cael ei ddefnyddio gan gyflenwyr H&M a ZARA. Gwnaeth H&M ddatganiad fod “llafur plant yn annerbyniol” i’r cwmni, a mynnodd Inditex, y cwmni sy’n berchen ar ZARA, fod eu cod ymddygiad yn gwahardd llafur plant.

[Ffynhonnell: The Guardian]

Beth yw’r nodweddion yn yr adroddiad hwn?

  • Berfau amhersonol – cyhoeddwyd, cyhuddwyd.
  • Dyddiadau/amser pendant – yn 2007, 16 awr, mor ifanc â deg oed, 2009.
  • Dyfynnu gan arbenigwr – “llafur plant yn annerbyniol”.
  • Is-deitlau – H&M a Zara dan feirniadaeth.
  • Berfau’r gorffennol – mynnodd, gwnaeth, datgelodd.

Brawddegau agoriadol defnyddiol

  • Yn ôl llygad-dyst...
  • Mae tystiolaeth...
  • Dywedodd ...
  • Does dim amheuaeth...