Â鶹ԼÅÄ

Neges ac agwedd y bardd yn y gerdd

Mae hon yn gerdd ‘werdd’ yn yr ystyr ei bod yn dangos rhinweddau byd natur. Mae hi hefyd yn feirniadol o’r ffordd mae dyn yn anharddu’r tir yn enw cynnydd:

  • hagrwch Cynnydd
  • wyneb trist y Gwaith
  • ymryson ynfyd
  • Chwerw’r newyddfyd blin

Neges R Williams Parry i ni yw bod byd naturiol yn llawer iawn harddach na’r byd datblygedig y mae’r byd modern yn ymhyfrydu ynddo.

Question

Pa neges mae’r beirdd yn ei rhoi i ni ynglŷn â’r amgylchedd yn y cerddi Eifionydd a Walkers’ Wood? Defnyddia enghreifftiau i gefnogi dy ateb.