Main content

Casey

Casey, o Gasnewydd, yw un o artistiaid mwyaf disylw a dirgel Horizons 2016, ac mae hynny ar bwrpas. Ethos y band yw gwneud y gerddoriaeth a’i gonestrwydd emosiynol yn ganolbwynt yr hyn maen nhw’n ei wneud. Yn ôl Casey, “does gennym ni ddim cynllun mawr, canlyniad cariad yw cerddoriaeth.â€

Fact title Fact data
Artistiaid:
Tom Weaver, Liam Torrance, Toby Evans, Scott Edwards, Max Nicolai
Arddull:
Ôl-craidd caled, Amgen
O:
Casnewydd

Maent yn cyfansoddi cerddoriaeth post-hardcore eang, mor atmosfferig â 65DaysOfStatic neu Explosions In The Sky cyn newid yn ddi-oed i fod mor ffyrnig ac angerddol ag unrhyw un o ganeuon Deftones. Pwynt cyfeirio ychydig yn fwy cyfoes fyddai Baltimore’s Pianos Become Teeth.

Ond nid dylanwadau rydyn ni’n eu trafod fan hyn. Dydy Casey ddim am effeithio ar onestrwydd emosiynol eu cerddoriaeth â rhestr o ddylanwadau tra hunanymwybodol, na delwedd neu glebran disylwedd cyfryngau cymdeithasol.

Datganiad o bwys Casey fydd eu halbwm cyntaf hir ddisgwyliedig a fydd allan ar Hassle Records yn ystod yr haf, a’u sioeau byw syfrdanol.

Mwy o Casey