Main content

Cestyll

Mae rhywbeth rhyfedd a grymus ar droed ar fryniau Eryri. Mae cerddoriaeth Cestyll yn rhywbeth rhwng Syd Barrett, Os Mutantes ac Ennio Morricone, caneuon seicadelig a swynol a fyddai’n cyd-fynd yn berffaith â ffilm annibynnol ychydig yn wahanol i’r arfer wedi’i leoli ym mynyddoedd gogledd Cymru.

Fact title Fact data
Artistiaid:
Dion Hamer, Cynyr Hamer, Calvin Thomas
Arddull:
Amgen, Seicedelig, Roc, Indie, Electro
O:
Rhosgadfan

Ffurfiodd y brodyr Dion a Cynyr Hamer y band nôl yn 2008. Erbyn hyn mae Calvin Thomas wedi ymuno â nhw i chwarae gitâr bas.

Cafodd eu demos a’u senglau dwbl Cymraeg diweddar (‘Argau’ ac ‘Ar Agor’), eu chwarae a’u canmol i’r cymylau ar 6Music, Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Wales a Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru. Mae yna bobl ddiflas sy’n meddwl nad oes unrhyw beth newydd i’w glywed, a bod cerddoriaeth bop a roc mewn cylch cythreulig o hen syniadau’n cael eu hailgylchu a’u cyflwyno fel rhywbeth newydd. Mae Castles yn eu profi nhw’n gwbl anghywir.

A’r eironi ydy, er bod enw’r band yn galw hanes mawreddog i gof, Castles yw sain y dyfodol.

Mwy o CaStLeS