Main content

Danielle Lewis

Mae gan gerddoriaeth Danielle Lewis goethder glas yn perthyn iddi. Mae ei llais rhyfeddol o eglur yn swnio mor naturiol a diymdrech ag un Karen Carpenter.

Fact title Fact data
Arddull:
Indie Pop, Canwr-Cyfansoddwr
O:
Ceinewydd

Mae gan ei chaneuon pop gwerinol bythol y potensial i apelio ar draws cenedlaethau, gyda greddf alawol debyg i Taylor Swift neu Lucy Rose.

Heb os nac oni bai, cafodd ei sgiliau ysgrifennu a pherfformio eu mireinio pan dreuliodd hi wyth mis yn teithio ar draws Awstralia yn perfformio ei cherddoriaeth, gan gynnwys ymddangosiad proffil uchel ym Mhencampwriaethau Syrffio Byd-eang Proffesiynol Quicksilver yn 2012.

Ar ôl dychwelyd i'w chartref yng Ngheinewydd yn nwyrain Cymru, cafodd ‘Paper Hearts’, EP cyntaf Danielle, ei recordio a’i ryddhau gan ennyn cefnogaeth frwd amrywiol raglenni ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Wales a C2. Bu Danielle hefyd yn perfformio yn Wakestock a Focus Wales.

Cafodd dwy o ganeuon Danielle eu dewis i fod yn gerddoriaeth ar gyfer ymgyrch Croeso Cymru, a does ryfedd.

Mwy o Danielle Lewis