Main content

Tibet

Cyn gynted ag y mae beirniaid a sylwebwyr yn dechrau galaru o achos marwolaeth y gitΓΆr unwaith eto, mae band gwych ΓΆ gitarau yn ei wreiddiau yn ymddangos ac yn ennyn cyffro pob un ohonom ni sydd ΓΆ mwy o ddiddordeb mewn gwrando ar ganeuon gwerth chweil na rhagfynegiadau arwynebol.

Fact title Fact data
Artistiaid:
Joel Hertz , Ethan Hertz, Tom Rees, Rhys Carey
Arddull:
Roc Indie
O:
Caerdydd

Mae Tibet, o Gaerdydd, yn un o’r bandiau hynny. Mae caneuon egnïol a swynol y band - Kinks i’r 3ydd mileniwm - wedi ennyn cefnogaeth frwd ar Radio 1 a Radio X.

Mae dau o aelodau’r band - Joel ac Ethan Hertz - yn frodyr, sydd bob amser yn ychwanegu naws ddifyr at bethau.

Cafodd Tibet ei enw o linell yn Twin Peaks ac, yn briodol, does dim byd yn Tibet fel y mae’n ymddangos. Pan rydych chi ar fin meddwl bod y band, fel sawl un o’i flaen, yn ceisio dod â'r 60au yn ôl yn fyw, mae newid annisgwyl neu dro yng ngeiriau’r gân sydd yn sicr wedi ei ddylanwadu gan y byd cyfoes o’n cwmpas.

Sesiwn Luniau

Mwy o Tibet