Main content

Afro Cluster

Mae Afro Cluster, sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, yn gasgliad o gerddorion o bob cwr o dde Cymru. Maen nhw’n dystiolaeth ardderchog bod y gerddoriaeth orau’n bodoli rhwng ffiniau genres a ffiniau cenedlaethol a thu hwnt iddynt, ac mae ganddyn nhw enw fel un o’r bandiau byw gorau yng Nghymru.

Fact title Fact data
Artistiaid:
Skunkadelic, DJ Veto, Andrew Brown, Charlie Piercey Russell Evans, Hugh Parry, Laurence Collier, Samuel Robertson, Dafydd Davies
Arddull:
Hip-hop , Afro-beat, Jazz, Funk
O:
Aberwystwyth, Porthcawl, Cardiff

Mae EP diweddar - ‘We Don Land’ (wedi ei ysgrifennu a’i berfformio mewn bratiaith Saesneg Nigeriaidd gan MC y band, Skunkadelic) yn cyfuno nodweddion gwledydd (Affricanaidd, Americanaidd ac Ewropeaidd) a genres (ffync, hip hop, afro beat a jazz) gyda chanlyniadau cyfareddol.

Gyda Fela Kuti, Ozomatli, The Roots, Talking Heads a Snarky Puppy ymhlith eu dylanwadau, mae eu cerddoriaeth yn gefndir ysbrydoledig mae MC Skunkadelic yn ei ddefnyddio i herio anghydraddoldeb a rhagfarn gyda neges o obaith a chariad.

Mae uchafbwyntiau diweddar y band yn cynnwys perfformio gyda chewri hip hop Los Angeles, People Under The Stairs, a sêr y byd jazz, Young Blood Brass Band.

Mwy o Afro Cluster