Main content

Roughion

Mae Roughion o Aberystwyth yn ymgadw rhag ystrydebau ac mae’n amhosib eu rhoi mewn un categori.

Fact title Fact data
Artistiaid:
Gwion James, Steffan Woodruff
Arddull:
Dawns Cerddoriaeth Electronig
O:
Aberystwyth

Yn fras, mae’r deuawd electronig hwn yn creu cerddoriaeth ddawns ar lawer o’i ffurfiau amryfal: o electronica arbrofol EP sy’n dyfynnu areithiau hanesyddol Cymreig, i'w hailgymysgiadau o gerddoriaeth perfformwyr megis Band Pres Llareggub a Delyth McLean sy’n ddigon i ysgwyd unedau sain.

Maen nhw hefyd yn DJs dawnus ac mae eu setiau wedi gwefreiddio meysydd a phebyll yng NgΕµyl Rhif 6, X Music Festival a Kaya.

Doedd Cymru erioed wedi cael neb sy’n cyfateb i'r Chemical Brothers o’r blaen... dau archwiliwr sonig â’u bryd ar ddilyn daearyddiaeth dawns. Mae hynny wedi newid.

Sesiwn Luniau

Mwy o Roughion