Main content

Aberhafren v Beirdd Myrddin

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Arwydd neu Rybudd Ffordd Anarferol

Beirdd Myrddin
Heavy Plant Crossing
Yn syn fe sefais yno – yn aros
I beiriant fynd heibio,
Er, nid tryc ddaeth rownd y tro -
I 'mwyta daeth tomato.

Margaret Rees – 8.5

Aberhafren
Rhybudd: dibyn, yna’r don!
Welcome all: please drive on!

Owain Rhys - 8

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘rhy’

Beirdd Myrddin
Rhy gormod fy tafodiaith,
Mae'n fyw o hyd. Mae'n fy iaith.

Bryan Stephens – 8.5

Aberhafren
Rhy hoff o farddoni’r wyf,
yn lle gwneud, jest dweud ydwyf.

Mari George – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth cas, credwch fi, yw insomnia’

Beirdd Myrddin
Peth cas, credwch fi, yw insomnia
'Rôl diwrnod o drio englyna,
'Dyw esgyll a strac
Ddim o iws yn y sac,
Rhupunt hir yw y gore i'r llipa.

Ann Lewis – 8.5

Aberhafren
Peth cas, credwch fi yw insomnia,
a'r wraig yn ei nicers a'i sanna,
yn gwasgu'n llawn nwyd
â'i choesau mawr llwyd,
fel tasen i'n fwyd anaconda.

Owain Rhys – 8.5

Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Coedwig

Beirdd Myrddin
Suo-gân rhyw oes gynnar
ddug y gwynt o’r derwydd gwâr
heddiw i glustiau byddar.

Bu unwaith ei hafiaith hi
amdanom yn ymdonni,
a’i rhin yn iaith rhieni.

Meinwynt goror fu’n torri
dail ei hoen o’i dwylo hi,
dwyn ei hiaith a’i dinoethi.

Ond mewn seler dan dderi,
y dail hyn yw dalenni
ei chyfrol hynafol hi.

Eto traidd drwy bob gwreiddyn
sillafau o’r hafau hÅ·n
a gair ym mhob blaguryn.

Gwynnant Hughes - 9

Aberhafren
Cyffes sy'n ei boncyffion:
nad oes o dan fondo hon
wedi canrif ond cynrhon.

I’w dolydd hi, dal i ddod
yn foliog mae’i thrychfilod;
mae ei hadar a'i mwydod

yn byw'n hir rhwng beionéts,
yn cnoi'n dawel mewn helmets –
dyna o hyd goed mud Mametz.

Am wn i. Ni fûm un haf
yn ei dail mewn oed olaf
efo'r brain ar fore braf.

Rhys Iorwerth - 10

Pennill ymson mewn maes parcio aml-lawr

Beirdd Myrddin
Dywedai mam bob amser
Pan ddaw’r arswydus awr
Fod lle i bob pechadur
Yn ffald y Brenin Mawr,
Ond wrth gylchdroi tua’r nefoedd
Nid oes ‘run garanti
Fod cilfach imi’n aros
Yng nghorlan NCP.

Bryan Stephens - 9

Aberhafren
Ar wythfed llawr maes parcio
mae'r gwynt ar war;
fe oedaf eiliad eto,
does gen i'm car.

Llion Pryderi Roberts – 9

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Bwlch yn y Farchnad

Beirdd Myrddin
Wrth brynu’r Odliadaur fe welais silffoedd llawn -
gwers-lyfrau’r cynghaneddion, yn ddysg i feithrin dawn.
“Anghenion y Gynghanedd”, CDs o “Wersi Dic”,
“Bwyd llwy o badell awen” i’ch gwenud yn fardd go slic.
Ond nid oedd un allasai i wneuthur jobyn rhwydd
o lunio croes o gyswllt, neu englyn mewn un swydd.
Fe fynnith oriau lawer o chwys a chrafu pen
i chwilio am bob geiryn i lunio cerdd i Gwen.

Mewn fflach fe welais gyfle i greu rhyw raglen hud
allasai lunio cerddi ‘da’r gorau yn y byd.
Lan-lwythais holl reolau, holl amrywiadau’r iaith,
pob un o’r hen fesurau, fe ‘roedd e’n lot o waith!
A chyn bo hir fe’m gwelwyd ynghanol “Dragon’s Den”,
yn ennill eu cefnogaeth am bump y cant y pen.

Ond och a gwae ddilynodd, prydyddwyr droes yn gas,
er rhoi y pwnc a’r mesur, daeth dim ond sbwriel mas.
Di-gadair a di-goron, yn awr oedd beirdd y wlad,
yn derbyn beirniadaethau a oedd yn wir sarhad.
Ac yna sylweddolais na ellir fyth gyfleu
barddoniaeth heb gael awen, dim ond hyhi all greu.

Meirion Jones – 8.5

Aberhafren
Eleni mae Llenyddiaeth Cymru wedi penderfynnu rhoi arian i awduron a digwyddiadau ar yr amod bod rheiny wedi cael eu hysbrydoli gan Roal Dahl

Hen wlad dlawd, y Walia hon, un na ŵyr am lenorion.
I wneud iawn, eleni daeth, yn with-it, gorff llenyddiaeth
i ddyrchafu’r awduron a mawrhau eu lleisiau llon.
“Pa un,” holai’r rhain, “pa ŵr a gawn o blith pob sgwennwr
i’w foli, i’w noddi’n iaith ein gwlad? Y mae'n galedwaith!”
Un nos, â bylbs yn fflashio, oedodd un, a dwedodd o
yn wan, dan golli’i anal: “Holy Dick! Beth am Roald Dahl... ?!
"Blwyddyn Roald, yr hen soldiwr o Sais a fydd hon yn siŵr.
Gŵr o Norwy gan fwyaf, ond ’leni daw o Landaf.
Hawliwn hwn i’n cenedl ni. Un selog, fel Prins Wili,
mawr ei farc yng Nghymru fach. Hwn yw llenor ein llinach!
Roald, y Cymro o’n bröydd, a mwy, Roald y Gymru rydd.
A wyddoch am ddigwyddiad? Yn enw Roald, bydd yn rhad!”
Be’ nesaf? Dal i grafu yn ddwfn yn y gasgen ddu?
Rwyf o ’ngho’, ac ar fy ngwir, cyn haf, ofnaf y trefnir
gornest sâl (ond sbesial, sbo) o Dalwrn i’w Roald-Dahlio.
Y dŵd oedd yn awdur da, ond dyn o Gymro? Dyna
ddwli i mi ym mhob modd. A Rhys a'i rant sydd drosodd.

Rhys Iorwerth – 9

Ateb llinell ar y pryd – Ein herwau yw’r enwau hyn

Beirdd Myrddin
Ein herwau yw’r enwau hyn,
Ar ras awr i Lyn Rhosyn.

0.5

Aberhafren
Ein herwau yw’r enwau hyn,
Rywsut fe aeth Glyn Rhosyn.

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwneud y Tro

Beirdd Myrddin
Tarten Fwyar

Daw haul hen Fedi’n llachar drwy y tÅ·
Gan osod tarten fwyar ar y bwrdd
Ac yna yn ei brat daw gwedd mamgu
I'r eiliad lle mae ddoe a heddiw’n cwrdd.
Mae pawb o gylch y ford yn bwyta’n frwd,
Yn rhannu sgwrs am fywyd garw’r ffas,
Gan adael yr egalitaraidd gnwd
Yn ddim ond clais ar yr enamel glas.
Mor ddiarth ydyw'r dyddiau hynny mwy;
Cyfleuster siop sy’n cynnal ffordd o fyw,
Rhy felys yw’r danteithion ar fy llwy
Rhy esmwyth yw ein sgyrsiau ar y clyw.
Ond er i’r crwst friwsioni yn y co’
Ni wna’r un darten arall fyth mo’r tro.

Aled Evans - 9

Aberhafren
Deffro i dwyll
haenen o atgofion
a Ionawr yn Ionawr am ennyd
lle saif pyllau iâ a phobol
yn stond,
lle gallwn gyffwrdd yn ein
chwerthin cynnes ein gilydd,
yn ddiogel eto
yn ein llithro
a’n cleisio.

Un haenen
am un ennyd
tan i'r haul ei chrafu'n dwll.

Mari George – 9

Englyn: Dydd Gŵyl Dewi

Beirdd Myrddin
Rhy gynnar yw ei gennin, rhy gynnes
Yw’r gân yn y priddin.
Eto Mawrth all droi tu min
A’n gyrru i’r tir gerwin.

Aled Evans – 9.5

Aberhafren
Dros Gymru’n dân fe ganaf heddiw’r dydd
hi’r diwn ar ei huchaf.
Fory ar dro, nodio wnaf
i’r diwn ar ei Phrydeiniaf.

Aron Prichard – 9.5

Cyfanswm
Beirdd Myrddin – 71
Aberhafren - 72