Main content

Bro Alaw v Llanrug

Bro Alaw v Llanrug

Trydargerdd: Crynodeb o swydd-ddisgrifiad rheolwr tîm pêl-droed

Bro Alaw
Gosodwyd y manylion,
Y pitw a’r hanfodion,
Pob dim yn eglur rhwng dau glawr –
Yn “Llyfr Mawr” Arthur Picton.

John Wyn Jones – 8.5

Llanrug
Chwysa’r sêr yng ngwres yr haf
wiwera bwyntiau’r gaeaf;
yna’n Mai bydd tlws yn braf
a ni uwch y tri isaf.

Richard Llwyd Jones – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair “llwyth”

Bro Alaw
Gwyliwch, mae llwyth o gelwydd
Ar daith o dyrau Caerdydd.

Geraint Jones - 8

Llanrug
Ni all llwch giwana’n llwyth
ddeffro y goeden ddiffrwyth.

Dafydd Williams - 8

Limrig yn cynnwys y llinell “Mae’n bosib ond nid yw’n debygol”

Bro Alaw
Cefais ateb gan Ceri yn rasol,
'Rôl gofyn, '' 'Di odli 'fo 'asol'
Yn dderbyniol gen ti
A chriw'r Bi Bi Si?''
'' Mae'n bosib ond nid yw'n debygol!''

Ioan Roberts – 8.5

Llanrug
Mae’n bosib ond nid yw’n debygol
Cael Meuryn heb ddawn gynganeddol;
Yn ddiarth bo englyn
( Fel crempog i fochyn),
A dim ond rhyw ronyn o syniad ganddo ar sut i orffen limrig hefyd

Dafydd Whiteside – 8.5

Cerdd ar fesur yr englyn milwr -“Rhodd”

Bro Alaw
A welaist eu cywilydd
Yn llenwi llygaid llonydd
 gwae eu cur tragywydd?

A glywaist, a hi'n glawio,
Uwch cawod drom y bomio,
Gri a phoen y gwÅ·r ar ffo?

A brofaist heddiw'r briwiau
Yn y groth, na thry'n greithiau,
Ond â'u brath drwy enaid brau?

A deimlaist y llid amlwg
Â'r drefn ddidostur a drwg
Yn y galon o'r golwg?

Do, cefais weld y cyfan,
A rhaid, o rhaid, gwneud fy rhan;
Beth wnaf? Fe yrraf arian.

Richard Parry Jones – 8.5

Llanrug
Min hwyr, ond taid a’r ŵyrion
a’r haul heibio’u gorwelion,
yw’r adeg rhoi ger ford gron.
Taid min nos, wastad mewn hwyl,
di-rodres athro preswyl;
yno’i warchod dry’n orchwyl.
Undod agos gwrandawgar,
o’i god daw’r storiau gwâr;
mor braf cael tegan llafar
Un yw’r daith, geiriau dethol
o wenith ein gorffennol
i fedi eu dyfodol
trwy iaith, taid sy’n eu trwytho’n
ein hanes a llên yno;
rhoi addysg i’w hyrwyddo.

Richard Llwyd Jones – 8

Pennill Ymson wrth ddarllen llyfr

Bro Alaw
Fel bynsan boeth a sdici, mor felys amser te
Yw golwg ar addasiad Lol o ‘Fifty Shades of Grey’.
Mae’n cychwyn pan yw Dewi Llwyd, lamsachus ac erotig
Yn denu merched i’w bot mêl efo’i sbectol fawr hypnotig.
Mae ’mhyls yn cychwyn rasio a chodi mae’r tymheredd
Wrth ddarllen am ddawn Alan Llwyd i garu mewn cynghanedd.
Ynghlwm ar y dudalen, mewn geiriau noeth, llawn nwyd,
Mae menu o orchestion carwriaethol Derec Llwyd.
O! Nawr ‘rwy’n cyrraedd cleimacs, mae’n amlwg erbyn hyn:
Mor fawr yw chwant y Meuryn, ‘dyw Ceri ddim yn wyn!

Ioan Roberts – 8.5

Llanrug
Dim son am ymarfer na chadw’n heini
A llinellau gweigion sydd o’th du-mewn-di.
Wel wir E.J.Arnold bydd angen cryn lwc
I werthu hwn, dy Exercise Book.

Dafydd Whiteside Thomas – 8

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned):Y Bore Coffi

Bro Alaw
Mae’r Steddfod Fawr yn dod yn nes, a ma’ nhw’n swnian isio pres,
A dyma benderfynu cael un cwarfod iawn a rhoddion hael.

Cynigiodd Mr Elsan Jôs gael Bore Coffi gyda’r nos,
Dan arolygiaeth Jên Bryn Llwyd, a’r Dybliw Ai i wneud y bwyd.

“Rhaid codi hwyl” medd Dic fy mrawd, “mi ro’i Fiagra yn y blawd
Yn gymysg efo madarch doji, mi nai’n siŵr bydd petha’n codi”.

Yn dal a syth yng nghefn yr hall fe gododd trigian sosej rôl,
A Huws y Person’n methu dalld fod pen y clagwydd fyny’r alld.

A dyma fi a Wil y Wig yn plasdro halan ar y cig
Ac yna helpu i dorri sychad, rhoi jin a fodca’n y dŵr yfad.

Roedd Miss Hyde-Pomphrey, Sŵn y Gwynt, yn sdryglo i werthu sws am bunt,
Nes ffeirio efo’i hwyres Grês - a’r adeg honno gwnaethom bres!

Daeth dyn mawr tew, Now John TÅ·’n Coed, i ddawnsio’n wych ar ysgafn droed
Dawns y Ffandango yn ddi-ball, ffan yn un llaw a’r dango’n llall.

Ac wedyn codwyd Mrs Rees ar ben y bwr i neud sdriptîs
Gan ddeffro anian Ned Min Don, fu’n bowld ofnadwy efo’i ffon.

Roedd Elsan Jôs a Mary Lou ar bwys y ffrij mewn howdi-dŵ
A dyna pryd aeth Mrs. P tu ôl i’r piano’n sâl fel ci.

Rôl talu’r bil am llnau yr hall, ’doedd ’na ’run ffadan goch ar ôl -
Fu dim fel hyn ’nein pentra ni ers diwrnod claddu Mrs. T!

Geraint Jones – 9.5

Llanrug
Mae ein Teyrnas Frenhinol mewn dyledion mawr,
Rhaid gwneud Tori-adau i’n hachub – yn awr!
A chafodd Jorj Osbwn y syniad aruchel
O gynnal Bore Coffi i’n cael allan o gornel.

Un fyddai’n rhychwantu holl bobloedd y Deyrnas
Ac uno pob copa o fewn ein cymdeithas;
Gofynnodd i bawb am geisio cefnogi
A gwnaeth gais am gyfraniad i’r cwmniau gwneud coffi.

Dim pres, meddai Starbucks, er gwaetha ein henw,
A’n trethiant mor isel ( er i ni wneud elw).
Rho’r ffidil yn to, does dim gobaith bargeinio
Oedd ymateb llefarydd o Café Nero.

A Costa? Mae’r enw , dwi’n siwr, yn deud y cwbwl,
Er byddem ni’n hoffi’ch cael allan o drwbwl.
Beth am arall-gyfeirio, ac yn lle’n trethu ni
Ewch ati i drefnu rhyw ‘Afternoon Tea’.

A Jorj mewn anobaith, a’r wlad ‘ny fath berygyl
Aeth i daro bargen efo cwmni Gwgyl!

Dafydd Whiteside Thomas – 8.5

Llinell ar y pryd: Yn nos ein anghenion ni

Bro Alaw
Yn nos ein anghenion ni
Yn awr daw’r wawr i dorri.

0.5

Llanrug
Daw yr awr i’r wawr dorri
Yn nos ein anghenion ni.

0.5

Telyneg: Dymuniad

Bro Alaw
Aderyn diniwed yr olwg,
fel duw ar geubren
yn dymuno’r gwyll
i gael lledu’i adenydd
a thrawsffurfio’n heliwr
er mwyn ei fyw.

Chwiler afluniaidd
yn llonydd,
yno am hydoedd
yn disgwyl amodau
ei fetamorffeiddio’n harddwch
a byw.

A ninnau’n gymysgedd od
o’r heliwr a’r harddwch,
yn deisyfu awr ein gweddnewidiad
trwy beidio â bod,
yn glynu yn y gobaith brau
y cawn fywyd eto.

Cen Williams - 10

Llanrug
A mi’n chwe mis oed cyhoeddodd taid
“ Mi wnaiff hwn brop.”
O’r ardd gefn
drwy fwd meysydd ysgol y gorllewin
gyrrais ymlaen.
Yn ‘seren’ y tîm lleol
dysgais y triciau a’r caneuon
a mireinio crefft.
SET
Daw cyfnod newid agwedd,
o ffitrwydd ac ymroddiad.
O sugno traddodiad y Strade
a gyrru ‘mlaen.
HOLD
“Rhif 16 tynna dy dracwisg,
mae Gethin yn dod i ffwrdd.”
ENGAGE

Richard Llwyd Jones – 8.5

Englyn: Galwedigaeth

Bro Alaw
Yn driw i'r TÅ· drwy'r tywydd – i gynnau
Y gannwyll daw beunydd;
Sul a gŵyl mae'n disgwyl dydd
I ddiwygiad Duw ddigwydd.

Richard Parry Jones - 8

Llanrug
Un ddwys ac un urddasol – yw y llaw
ar y llyw terfynol.
Gyrrwr i fyd gorfodol
yw hwn a’i hers di-droi’n ôl.

Dafydd Williams – 9

Cyfanswm
Bro Alaw – 70
Llanrug – 67.5