Crannog v Fforddolion
Trydargerdd - Rheolau criced
Crannog
Mae gen ti hawl i dwyllo’n deg,
Doctora’r bêl a’r wiced,
Cei regi hefyd lond dy geg,
Ond paid â’i alw’n griced.
Idris Reynolds - 8
Fforddolion
#trydar@dickiebird
Seiat rhwng y bat a’r bêl, – taro’r ffin,
twrw’r ffyn yn dymchwel,
a thrwy haf o ymrafel
una pawb yn ei apêl.
8
Cwpled - yn cynnwys y gair ‘corn’ neu ‘cyrn’
Crannog
Hyglyw iawn ym Mawrth y glyn
Yw molawd y cyrn melyn.
Eirwyn Williams - 8
Fforddolion
Alaw lon i glustiau claf
yw alaw’r helgorn olaf.
8.5
Limrig – mae’n gyfle na chaf i fyth eto
Crannog
‘Mae’n gyfle na chaf i fyth eto’
Medd geneth mewn sodlau stiletto
Fe wyddai yn burion
Mai prin ydyw’r dynion
Sy’n fodlon i rannu cornetto.
Endaf Griffiths – 8.5
Fforddolion
Mae Pedr yn fy nghadw i stiwio
a theimlaf y gwres oddi tano,
ar glo y mae’r clwydi
a chystal dweud gweddi,
mae’n gyfle na chaf i fyth eto.
8.5
Cerdd ar fesur Englyn Milwr - Pentref
Crannog
Ni all y map ddweud lle mae,
mae’n guddfan heb drigfannau,
na chŵn nac ysgol i’w chau.
Rhywle, dros y gorwelion
mae’r rhiniog, a’r cymdogion
ar y lein tu hwnt i’r lôn.
Draw ar sgwâr y ddarpariaeth
un stryd o ffenestri aeth,
o’u hagor, yn gymdogaeth.
Fforwm y rhithfyd mudan
a lled y llinell lydan
ydyw mainc y siarad mân.
Mewn tir neb heb wynebau,
er i’r sgrîn ledu’r ffiniau,
fesul gwên mae’r lle’n lleihau.
Eirwyn Williams – 9
Fforddolion
Daeargryn 2016
I’r düwch, gŵr mor dawel,
un stryd o ddinistr a wêl
a’r aberth dan y rwbel.
Mae’n gweld gwacter a blerwch,
twrio o raid yn y trwch
a’r tyllu i’r tywyllwch.
Angau sy’n y muriau mud
yn y llun bob un funud,
a beiau lle bu bywyd.
Dydd Gwener ei bryderon
a glyw yn yr ysgol hon,
a’r gri olaf mor greulon.
Hanner canrif sy’n brifo,
un Hydre’ hir ddaw’n ei dro
a’i naw oed i’w boenydio.
9
Pennill ymson - Wrth osod bet
Crannog
Rwyf i yn geffyl rasio
sy’n rhedwr eitha’ clou,
rwy’n ffrind ’da phob un joci
ar wahân i’r blydi boi
sy’n reido ar fy ngefen –
mae e yn bach o doff;
so dyma fi’n rhoi can-punt
ar ba berth y cwmpith off.
Endaf Griffiths -9
Fforddolion
Rhoddais bres ar ast, four-to-one,
yn six o’clock White City,
ac am ten-to-eight fe ganaf gân
‘yn dweud ffarwél i’r milgi.’
8.5
Cân ysgafn - Hel Clecs
Crannog
Fi yw’r fenyw fach fusneslyd
Sy’n dod o Dôl-y-bant,
Fe’i henwaf felly i gael dweud
Fy mod i’n hanner cant
Cans rwyf wedi dod i drwbwl
O’r blaen â’r odl -ont,
A dyna pam na elwais i
Y lle yn Tal-y-bont,
A chan fod gen i dafod ffraeth
Fe fûm sawl tro o flaen fy ngwaeth.
Nid yw’r ddeddf yn gwahaniaethu
Rhwng gwÅ·r a’r gwir o hyd,
A gall tynnu clust agenda
I glebren gostio’n ddrud,
Ond tra bod heddlu cudd yn Borth
Mi ddaliaf i hel clecs;
Os yw ein gwlad yn llwm o ddyn,
Nid yw hi’n brin o stecs.
A dweud y gwir fe ges lond bol
Ar glywed mod i’n siarad Lol.
Gillian Jones – 8
Fforddolion
Clywais rhyw sôn bod senedd yng Nghymru
a bod ’no aelodau a’u holl bryd ar ddeddf;
ond does yno ddim, mond C’nulliad heb rym,
heb ryddid i ddim ond i hefru.
Dywedir fod pob un yng Nghymru
yn meddwl y gallan nhw ganu,
ond nid Å·nt yn iawn: ein corau sy’n llawn
o feibion a’u lleisiau’n gweryru.
Dywedir mai hwyl fawr i Frwsel
yw’r ateb i setlo pob cawdel,
ond ’dyw tatws a ffa yn ddim digon da
heb ’sgewyll o tu draw i’r sianel.
Dwyieithog yw sianel fach Cymru
twolingual is Wales’ chanelly,
yn ganu, yn actio, yn gerddi
the singing, the acting, the gardens.
Mi glywais bod maeth mewn pot nŵdýl
a phrin ydyw’r saim, os o gŵbýl,
ond hurtni yw hyn, mae’r stori’n rhy llym,
os fwyti di lwyth ti mewn trŵbýl.
8.5
Ateb llinell ar y pryd – Go lew wir Ifor ap Glyn
Crannog
Go lew wir Ifor ap Glyn
Ti yw alaw ein telyn
Fforddolion
Cymru ddwed, Llundain wedyn
Go lew wir Ifor ap Glyn
0.5
Telyneg - Siarad
Crannog
Y llygad ar y moelydd
Yn hel y darnau ynghyd,
Gweddillion postion iete
Y cenedlaethau mud.
Y dwylo yn y gweithdy
Yn trafod cÅ·n a phlaen
A’r clust yn clywed stori’r
Cyfarwydd yn y graen.
Gillian Jones – 9.5
Fforddolion
Llenwi’r parlwr bach â dwylo’n
mesur iaith eu cydymdeimlo,
silff ar silff o eiriau duon
a’r baich pennaf, geiriau gwynion.
Llenwi’r dydd â briwsion cysur,
blât wrth blât, i leddfu dolur;
tagu cur wrth lenwi tegell,
tagu’r hyn sydd lond ystafell.
Llenwi’r hwyr â gwledd deledu,
crio chwerthin pob rhyw deulu;
llenwi’r awr i’r oriau gerdded,
taro’r post i beidio clywed.
Llenwi wythnos, llenwi misoedd,
llenwi oes â sŵn blynyddoedd;
llenwi’r holl eiliadau mudan
am fod rheiny’n dweud y cyfan.
10
Englyn - Defod
Crannog
Te Angladd
Tebot parod a blodau, - lliain gwyn
Llawn o gacs y dagrau,
A’r wawr o ddu yn rhyddhau
Adenydd dros frechdanau.
Idris Reynolds -10
Fforddolion
Â’r ddôr yn gil-agored, – un yn llai
at ein llan sy’n cerdded,
gŵr â’r iaith fu’n rhan o’i gred,
un yn llai o’r cyn lleied.
10
Cyfanswm
Crannog - 70
Fforddolion – 71.5