Hiraethog v Glannau Menai
Trydargerdd - Newyddion Da
Hiraethog
Yn y sêr uwchben Syria, anrhegion
i rwygo cymala’
a rown ar awyrenna’
ein duw, nid newyddion da.
Eifion Lloyd Jones - 9
Glannau Menai
Nadolig 2015
Fy mloedd yw cael cyhoeddi, - ein hwyres
Â’i chariad yw’r stori,
Hwyl a gwên Gŵyl y Geni,
Seren yw Modlen i mi.
Meirion Jones - 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair “cnawd”
Hiraethog
Yn ei lun, un annwyl yw;
yn y cnawd, cenna’ ydyw.
Rhys Dafis – 9.5
Glannau Menai
A wellaf o hyn allan?
Dyn a ŵyr. Mae’r cnawd yn wan.
Gwyn Lloyd - 9
Mesur Englyn Milwr - Goleuadau
Hiraethog
Weli di sêr gwlad o swyn
a noddfa, fy mab addfwyn,
yn dy grud â’th fyd yn fwyn?
Nos fel inc a’r tai’n wincio
eu gwenau; fe gei heno
aelwyd braf dan gwrlid bro.
Dot i ddot ei ffiniau ddaw’n
gynllun dy rawd, yn ganllaw
ffyddlon i dy droeon draw.
Denu wnaiff llewyrch dinas;
ac edliw gwyll dy gadlas
wna sêr gwib pleserau gwas.
Ond bro ddeil lamp i’th gampau,
a’i heolydd yn olau’n
swyn y cof a’r nos yn cau.
Ffion Gwen – 9.5
Glannau Menai
Llusgo byw llesg yw bywyd
Â’n dyddiau heb ddedwyddyd
Llawn o boen, tywyll ein byd
Ond, a wyddoch, rai dyddiau
O edrych mae pelydrau.
A gwnaf, fe welaf olau’n
Dilyn yr ŵyr, a’r Dolig
Yn gariadus garedig;
Herio mawr a chwarae mig.
A’r hwyl o’i weld yn rholio’n
Ein lle, a’i wenau llon
Wna ragor o anrhegion.
Hen helynt prin ei heulwen
Yw y byd, ond fry uwch ben,
Oes wir, y mae sawl seren.
Gwyn Lloyd – 9
Limrig yn cynnwys y llinell: ‘Agorais y pecyn yn eiddgar’
Hiraethog
Agorais y pecyn yn eiddgar
a ffeindio nad oedd dim yn y bygar;
ces bwl bach o grio,
ond wedyn anghofio,
roedd ‘dim’ wedi’i lapio yn glyfar.
Berwyn Roberts - 8
Glannau Menai
‘Rôl aros yn wir amyneddgar,
Agorais y pecyn yn eiddgar,
Cyn gofyn yn syn
‘Sut bresant ‘di hyn?
Hen lyfr Ceri Wyn! Wel, myn uffar.’
Gwyn Lloyd – 8.5
Pennill ymson wrth baratoi pryd o fwyd
Hiraethog
Mae cwcio cinio Dolig
yn swnio’n grêt i mi
pan fo tri yn fejiterians
a dau yn glwten ffri,
rhyw lwyth o ddeiabetics
a figans rif y gwlith,
ac un yn anorecsic
a ffat-ffri yn eu plith:
fawr ddim o waith yn paratoi –
dwy brysel sprowt bob un i’w cnoi.
Gwenan Prysor – 8.5
Glannau Menai
Gofynnais fel rhan o’r cynhwysion
Am rywfaint o win a llwy,
Nid oes eu hangen i’r bwydydd
Ond mwynheith y chef dipyn mwy!
Meirion Jones – 8.5
Cân ysgafn - Esgusodion
Hiraethog
Dyma ddameg fechan ddifyr am Rywun, Pawb a Neb;
tri chyfaill oeddent o ryw fath – dau foi, ac un yn babe.
Un diwrnod braf o wanwyn, ’roedd joban isio’i gneud -
Pawb ’run farn mor bwysig oedd, er nad oedd Neb ’di deud.
Roedd Pawb yn hynod brysur, ’doedd Neb ddim wir ar gael
i wneud yr orchwyl bwysig, - ’di amser ddim yn hael.
“Dwi’n siwr g’neith Rhywun annwyl y gwaith ’ma ar ein rhan:
mae hi yn hynod drefnus, yn gneud popeth ym mhob man.”
’Doedd Neb ’di sylweddoli (’sa Pawb ’di gallu gneud) -
roedd y job yn blwming amlwg – oedd raid i Rywun ddeud?
“ ’Sa Rywun ’di gallu gneud hi”, o wrando ar Pawb a Neb;
aeth Pawb yn flin ofnadwy, ond heb roi bai ar Neb.
Roedd Rhywun ’di atgoffa Pawb sawl tro i wneud y gwaith:
Pawb yn rhy brysur â’i betha’i hun, a Neb fawr awydd ’chwaith.
Roedd Pawb yn g’wbod really na fasa’ Neb yn gneud:
Roedd o yn enwog iawn fel un oedd wastad yn gwrth-ddeud.
Fe gymrodd pawb ddiddordeb - yn diwedd - a rhy hwyr;
Oedd Rhywun am dalu’r pris am hyn, neu Neb? Dibynnu’n llwyr.
A dyna yr holl stori – ’does dim byd mwy i’w ddeud;
a hyd heddiw, hyd y gwn i, ‘cha’dd y joban fyth mo’i gneud.
Gwenan Prysor – 9
Glannau Menai
Mae’n ddrwg gennyf Mistar Meuryn
Nad yw rhai o’n beirdd gorau ar gael,
Wir yr, fe roddwyd rhesymau,
Diolch nad ynt farw, na’n wael.
Yn styc mewn lifft y mae Cynan
Ac mae’n sori i’n gadael ni lawr,
Ond hysbysodd – mae ar’i ffordd fyny
A gobeithia fod yma ‘mhen awr.
T H sy’n giamstar ar snwcer
A drenydd mae ar Bi Bi Si won
Ar hyn o bryd mae o’n brysur
Yn polisho’i beli - a’i ffon.
Roedd Ceirog ar y tren i ddod yma
Ond mae’r cledrau dan ddŵr a baw,
A ‘does dim i sortio’r broblem -
Daw’r dŵr o deip anghywir o law.
Ni all Peilonfab groesi y Fenai,
Anfonodd decs dros y ffôn,
Mae’n styc mewn grid ar yr Ynys
Ddim yn gallu dod allan o Fôn.
Meirion Jones – 8.5
Llinell ar y pryd – Aeth hithau’r ŵyl yn ei thro
Hiraethog
Aeth hithau’r ŵyl yn ei thro
Dotiaf at ei dod eto.
Glannau Menai
Un gret ond unwaith eto
Aeth hithau’r ŵyl yn ei thro.
0.5
Carol Blygain
Hiraethog
Ar fachlud haul
sy'n rhuddo erwau'r rhos,
mae'r wlad o amgylch Bethlehem
yn dawel gyda'r nos;
ond ar yr awel clywir cân
angylion yn gytûn
fod pawb yn disgwyl geni Un:
"Gogoniant i Dduw’r Cariad,
pan ddeuwn oll ynghyd
i ddatgan y daw ceidwad dyn
i achub yr holl fyd."
Ar doriad gwawr
sy'n glasu erwau'r ffridd,
mae'r wlad o amgylch Bethlehem
yn deffro gyda'r dydd;
ac ar yr awel clywir cân
angylion yn gytûn
fod pawb yn dathlu geni Un:
"Gogoniant i Dduw’r Cariad,
o deuwn oll ynghyd
i ddatgan y daeth ceidwad dyn
i achub yr holl fyd."
Ry'm ninnau’n awr
yn ceisio canu'n llon,
er gwaetha’r trais ger Bethlehem
ar hyd y flwyddyn gron;
er nad angylion sydd uwchben
y dwyrain yn ein hoes,
mae rhai o hyd am leddfu’r loes:
"Gogoniant i Dduw’r Cariad,
os deuwn oll ynghyd
i dderbyn neges ceidwad dyn
gan achub yr holl fyd."
Eifion Lloyd Jones - 9
Glannau Menai
A welais ffenestri yn siopau y trefi
A drama y geni i gyd;
Fe gofiaf y geni o’r beibil mewn stori,
Daeth Iesu fel babi i’n byd.
A glywais rhai bandiau, ychydig garolau
A rhai o ganiadau mewn hwyl;
Fe glywais ganeuon gan gôr fel angylion
A’r Iesu yn galon i’n Gŵyl.
A welais di’r baban yn debyg i degan
Mor eiddil, mor wantan oedd ef;
Fe brofais i’r geni a mawr oedd fy mraint i
O’i ddyfod i’n noddi o’r nef.
A welais di ddynion yn gwrthod cynigion
A chymaint o’i roddion mor rhad;
Fe glywais am ddoethion yn dod â’u anrhegion
A chynnes gyfarchion yn fad.
A beth fydd dyfodol yr un sydd yn fydol,
A fydd yn aberthol i’n byd;
Ei aberth unigol rydd fywyd tragwyddol
A chariad sy’n hudol o hyd.
Meirion Jones – 9
Englyn - Bwystfil
Hiraethog
Un o fintai dan fantell - yr uniawn
yw’r un sydd yn cymell
y difa o’i ystafell;
hawdd i bawb yw lladd o bell.
Berwyn Roberts - 9
Glannau Menai
Ar bob stryd mae rheibes a dry ei hwyneb
Mor annwyl i’n denu
I bres oer a’r llwybrau sy’
I Annwn yn diflannu.
Ieuan Parri – 9
Cyfanswm
Hiraethog – 71.5
Glannau Menai – 70.5