Penllyn v Y Cŵps
Trydargerdd: Maniffesto Darpar Arlywydd
Penllyn
Gwlad y dewrion, gwlad y cyfle,
Gwlad y cyfiawn, gwlad y rhydd,
Pan ddof i i’ch llywodraethu
Dim ond hunanoldeb fydd.
Beryl Griffiths – 8.5
Y Cŵps
Galwaf am ailgreu’n golud, - codaf wal,
Codaf arf ein delfryd,
Deddfaf i greu’n dedwyddfyd,
A bydd, bydd hi’n wyn ein byd.
Iwan Bryn James – 9.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cloc’
Penllyn
Ni all y cloc ond tocio'r
un sydd rhwng ei ddeufys o.
Gruffudd Antur - 8
Y Cŵps
O resynau’r presennol
Liciwn i droi’r cloc yn ôl
Huw Meirion Edwards – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un noson yng nghefn yr ysgoldy’
Penllyn
Yn Llantrisant ymgasglodd y Cymry
Un noson, yng nghefn yr ysgoldy,
A rhoi bath enamel
Yn daclus mewn cornel,
A dyna oedd cychwyn y bath-dy!
Aled Jones – 8.5
Y Cŵps
Un noson yng nghefn yr ysgoldy
roedd Huw’n gwerthu limrig reit ddigri.
Er cystal y llên
mae pob Cardi’n fên
a doedd gen i’m chênj. Dyna drueni.
Geraint Williams – 8
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Anialwch
Penllyn
Heb ruddin ac heb wreiddiau
Na thrydar plant yn chwarae
Mewn cystudd mae'r bröydd brau.
Er mwyn ei fara menyn
Bu mudo, dadwreiddio dyn
O hirlwm moel ei dirlun.
Gwlad a Llan oedd trigfan tras,
Mud yw iaith heb gymdeithas
Yn wyneb yr alanas.
Mor hawdd oedd gadael fy mro,
Anos aros i herio
Alaeth y trist ddadfeilio.
Yn nwylo yr anialwch,
Nid dyffryn na llyn ond llwch
Yw erwau di-weithgarwch.
Dylan Davies – 8.5
Y Cŵps
Drwy felan dy anhunedd
Mud ddyhei am dy ddiwedd:
Gwely di-boen gwaelod bedd.
Be weli di ond awyr,
Heb orwel na gwib eryr,
Yn glynu’n safn y Glyn sur?
Ni thyf ond pydredd heddiw
Drwy hunlle’r crindir unlliw,
Yn felyn frwnt fel hen friw.
Ond pan ddaw bendith gwlithyn
A gwawl i glai gwael y Glyn,
Daw nerth i’r cysgodion hyn.
O’r ddaear hesb rhyddha’r haf
Hyderus ei had dewraf –
Hyd nos dy wywo nesaf.
Huw Meirion Edwards – 9.5
Pennill ymson wrth wyna
Penllyn
Er derbyn y testun wythnosau ’mlaen llaw,
A gwybod am fesur y gofal pan ddaw,
Os campwaith sy’n gwpled mewn corlan o grud,
Mae’r ŵyna bob dydd yn dasg ar y pryd.
Aled Jones - 9.5
Y Cŵps
Fe o'n i’n iawn fy hunan
Ond dyma beth yw poen:
So tyn dy blydi braich mas
Wy'n trial geni oen.
Arwel Jones – 9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Toriadau
Penllyn
Mae damweiniau’n gallu digwydd i’r gorau yn ein plith.
Trwy faglu dros rotweilar, neu wisgo’ch crys tu chwith.
Ond Wynfford a’i wraig Ffion a aethant i gryn strach
Wrth droi llaw at DIY i arbed ceiniog fach.
Trwy ddamwain, llifiodd Ffion goesau’i gŵr i ffwrdd,
“Lwcus” meddai Wynfford “na lifiodd goesau’r bwrdd!”
A llithro wnaeth y siswrn o’i gafael hi mae’n siŵr,
Wrth dorri ’chydig ar ei wallt, fe dorrodd ben ei gŵr.
Yng nghanol ei phrysurdeb, roedd peth dilema nawr,
Roedd Wynfford ar y gadair a’i ben oedd ar y llawr.
Ac er i’w waed ystaenio ei charped newydd hi
Yr oedd hi wastad yno, roedd fel No WYN, No FFI.
I’r ysbyty’r aeth Wynfford a’i ben mewn bag Next
Ei ffôn fach i’w ganlyn, rhag i’r wraig anfon tecst!
Edrychai’n gyfforddus yn y bag plastig clir
Yn anffodus i Wynfford, bu ynddo’n rhy hir!
Fe alwyd am sylw’r “pen” feddyg, Doctor Winters,
Roddai fywyd i’r marw fel siopau Ann Summers,
Ond mygu a wnaeth Wynfford, ar wers ydyw hyn-
“Ddaw da fyth o blastig wedi’i gau yn rhy dynn.”
Aled Jones - 9
Y Cŵps
Rhaid i mi ymddiheuro , rwy’n teimlo braidd yn chwith
Gan nad wyf yn eich cwmni i adrodd hyn o lith.
A pholisïau Osbourne yw’r rheswm na chewch chi
Heno y fraint o glywed fy llais cyfoethog i.
Oherwydd y toriadau nid oes na thrên na bws
I’m cludo o Langadfan i Landre yn ddi-ffws.
Fe geisiais ddod i’r noson – o do – fe brynais ful –
Ond roedd fy nhin i’n llydan, a’i gefen o’n rhy gul,
A gwegian wnaeth ei goesau, gollyngodd lot o wynt
A chladdwyd ef ym Mallwyd (nid ar y ffordd i Fflint).
Ystyriais wedyn gerdded, ond daeth dau leidr croch
Gan gipio fy nwy fagl gerllaw i Comins Coch,
A synio rwyf na chaf i, ddwy fagl eto byth
Gan mai sgrownjars yw’r anabal nôl Iain Duncan Smith.
Ta waeth fe ddeliais ati, ar waetha’r troeon cas
Gan gropian ar fy mhedwar trwy bentre Derwen Las.
A mhennau gliniau’n gwaedu, pwy basiodd yn ddi-hid
Ond dau gar mawr o Benllyn a hyn ar gryn sbid
Mhen hir a hwyr fe’m cludwyd i’r sbyty gan rhyw Sais
Ac yno rwyf ar droli, ers oriau, ym Mronglais.
Dafydd Morgan Lewis – 9
Ateb llinell ar y pryd: Gorau ceg yw’r geg ar gau
Penllyn
I ŵr sy’n llai na’i eiriau,
Gorau ceg yw’r geg ar gau.
0.5
Y Cŵps
Gorau ceg yw’g ceg ar gau,
Agoraf y geg orau.
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Tarfu
Penllyn
Mae’n chwilio trwy ei phwt o bapur brau
dilyn gorchmynion distaw fesul rhes -
Diffodd y tân a chadw’r drws ar gau;
gwneud paned ddeg, ac wedyn ati i ‘llnau
y llwch oddi-ar y wên, a’i gael yn nes,
mae’n chwilio trwy ei phwt o bapur brau -
ond does ’run ateb, fe aiff ati i wau
darn bach o atgof yn y mymryn les.
Diffodd y tân a chadw’r drws ar gau;
mae’r dydd yn tynnu ato, yn byrhau,
fe ddylai alw rhywun mewn i’r gwres,
mae’n chwilio trwy ei phwt o bapur brau;
mae’n bryd noswylio, ‘Awn ni am ein gwlau?
Mi gawn ni lefrith cynnes – mi wneith les.’
Diffodd y tân a chadw’r drws ar gau;
Gwell cadw’r gweill, mae’n cyfri’r un hen ddau
orchymyn sydd ar ôl ar ben bob rhes –
mae’n chwilio trwy ei phwt o bapur brau.
Diffodd y tân a chadw’r drws ar gau.
Haf Llewelyn – 9.5
Y Cŵps
Mae’r byd wyneb i waered yn Llyn Padarn,
ac yn llonydd, llonydd. Mae’r cymylau
prin yn stond, llechi Dinorwig yn stond,
yr haul mawr melyn yn stond. Weithiau
bydd adar yn hedfan yn y llun, yn y llyn
llonydd, heb darfu dim ar y drych o ddŵr.
A gall rhywun ddychmygu gwyrthiau yn fan hyn,
holl drigolion mud y lle yn cerdded, sglefrio, dawnsio’n stŵr
ar hyd y ddelwedd hon, heb beri crych na thon
i newid dim ar y perffeithrwydd llonydd.
Ac yna mentraf innau osod llaw yn dyner yn y dŵr
a gwelaf bopeth yn anharddu, yn diflannu mewn cywilydd.
Mae fy llaw yn oer, ac rwyf yno’n unig ac yn syllu eto’n hir
ar y perffeithrwydd gynt lle nad oes dim, bellach, i’w weld yn glir.
Dafydd John Pritchard – 9.5
Englyn: Rheol
Penllyn
Y Gynghanedd
Cei, cei dynnu'r cadwyni – a diosg
dy iau, a chei dorri'r
hualau, ond fe weli
mor gaeth dy fodolaeth di.
Gruffudd Antur – 8.5
Y Cŵps
Ei nod yw ein ffrwyno ni – i’n cadw
Rhag ceudod trybini,
Er hyn, er ei chyngor hi,
Erys y wefr o’i thorri.
Iwan Bryn James – 9
Cyfanswm
Penllyn – 70.5
Y Cŵps - 72