Main content

Tanau Tawe v Y Diwc

Trydargerdd: ‘Llinell fachu’

Y Diwc
Rwy’n afradlon a llawn bloneg, - dim dant,
Dim dawn, methu rhedeg,
Mwynhau rym, emyn a rheg;
Arthur. ( - Dwy fil o wartheg !)

Dewi Rhisiart – 8.5

Tanau Tawe
Hei blodyn, wyt ti’n unig? – yn gwywo?
A’r gaea’n siomedig?
Gwanwyn yr wy’n ei gynnig,
Profiad hardd mewn gardd a gwig.

Elin Meek – 8.5

Cwpled caeth - ‘tyn’


Y Diwc
Arwydd a lafur cariad
Yw gafael tyn gofal tad.

Dewi Rhisiart - 9

Tanau Tawe
Wrth weld llun plentyn newynog ar newyddion y teledu...

Daw hagrwch gyda'r deigryn
yn rhwydd hyd ei ruddiau tyn.

Ceri Morgan – 8

Limrig - ‘Efallai fy mod i’n dychmygu ..’

Y Diwc
Efallai fy mod i’n dychmygu -
A hithau mor fain, rhaid oedd caru,
Fe stopion ni’n stond
Yn chwys domen, – ond
Mewn caci oedd Zeta bryd hynny.

Gwilym Williams - 8

Tanau Tawe
Frau Merkel a ‘Nige’ yn cusanu,
San Steffan yn gweithio dros Gymru,
Y Blaid yn 'fos' WAG,
Camp Lawn yn y bag,
Efallai fy mod yn dychmygu!

Ceri Morgan – 8.5

Englynion milwr - ‘Encil’

Y Diwc
Yno, ymhell bell o’r byd,
Yno, arhosaf ennyd;
Fy awr wrth lan y foryd.

Lle unig lle bydd llonydd,
A chwib tôn-gron y Pibydd
Yn erfyn am derfyn dydd.

Yn ysblander y blerwch,
Yn y drain a’r mwd yn drwch,
Yn ei waddod caf heddwch.

I’r gorwel â pob helynt
I’w cario gyda’r cerrynt;
Pluen, gwialen a’r gwynt.

Dewi Rhisiart – 9.5

Tanau Tawe
Â’i bader daeth pererin
o afael ei gynefin,
y gwylltio a’r blysio blin.

Daeth wedi oes o deithio
byd erlid a gofidio,
a daeth i sŵn bendithio,

i ynys sydd yn annog
esmwythder i'r blinderog,
ac oriau hir trugarog,

a chaffel hen gostreli
yn storio gwin tosturi
o winllan ffrwythlon Enlli.

Ann Rosser – 9

Pennill ymson - ‘Prynu neu werthu car ail-law’

Y Diwc
Fel injan mae yn tanio
cyn iddo siglo dwylo.
Fe garwn droi y cloc yn ôl:
diffygiol ydyw’r Polo.

Martin Huws - 8

Tanau Tawe
O diawch, bûm bron â gwerthu yr 'Hillman' ma's y bac
i'r bachan o tsia Merthyr sy'n da'r am 'symthin’ blac.'
Mi fydde wedi prynu petawn 'di cau fy ngheg,
y pris yn siwto'i boced; o damo, smo fe'n deg!
I beth ro’dd rhaid esbonio am wa'nieth lliw y sêt?
Hyd hynny ro'dd e'n hapus a phethe'n mynd yn grêt.
Ond 'styriodd e' fod rh'wbeth o'i le ar yr hen 'Imp',
Ac a'th ei drwyn a'i dalcen gan bwyll yn eitha' crimp.
Yn amal, gwell yw tewi ; 'na fe, syrfo fi reit ;
“Gad di i arall siarad, cadwa dy geg di'n deit!!"

Ceri Morgan – 8

Cân ysgafn - ‘Galw enwau’ 20 llinell

Y Diwc
Mi es i’r clwb nos Sadwrn i chwarae gyda Bron ac yno cawsom brofi rhyw gem fach newydd sbon.
‘Da phapur ac ysgrifbin, eisteddon ni i lawr. Y gem oedd Bingo Bachu a’r dyrfa oedd yn fawr.
Fe garthodd dyn ei wddw, a throi y tombolâ, cyn tynnu’r belen gynta a dweud mewn llais go dda
“Pum deg pump, tipyn o wimp, hoff o wisgo dillad sgimp.
Wyth deg wyth, clamp o lwyth; ddim yn bwyta lot o ffrwyth.
Un deg dau, dipyn llai; wedi pr’odi dynas llnau.
Chwe deg naw, troed wrth law, un reit handi beth bynnag ddaw.
Tri deg un, clamp o dîn; bildar del r’ôl gwydr gwin.
Ped-ŵ-ar, pelen sbâr; lot o bres a dwy gitâr.
Wyth deg un, mynd yn hÅ·n; peidiwch poeni, mae gen i lun.
Dau ddeg chwech, wyneb rhech; fe ddowch i arfer efo’i sgrech.
Saith deg tri, hync i chi; y clod y mawl, y parch a’r bri!”
Roedd Bron a’i cheg ar agor yn syllu ar y da, a’r chwys oedd lawr ei gruddiau fel pe bai’n ganol ha’;
Ei cherdyn heb ei gyffwrdd, a’i llygaid mawr yn synn wrth sylwi fod rhif deuddeg yn debyg iawn i Gwyn!
Roedd Gwyn yn ŵr i’w ch’nither, a honno oedd yn Sbaen, ond wedi holi ‘mhellach, digwyddodd hyn o’r blaen.
Ta waeth am hynny rwan, fy ngherdyn i oedd lawn, a dyma gyfle euraid i ddewis dyn go iawn.
Wrth baratoi i alw daeth llais o’r cefn yn hy’, a chyn i mi gael cyfle fe waeddodd honno ‘tÅ·’!
Ac adre es yn waglaw a’m llygaid bach yn llawn, ond yma’r wyf i heno i geisio dyn ‘da dawn.

Mererid Williams – 9

Tanau Tawe
Un bore, a minnau yn cerdded drwy’r parc, dafliad carreg o’r tÅ·,
Fe glywais ddau fachgen yn chwarae’n Gymraeg, a hynny ro’dd bleser i mi.
Cyn hir, trodd y chwarae yn chwerw, clywn wawdio a dirmyg a sen,
Ond hynny yn Saesneg, fodd bynnag, a syniad a gododd i’m pen.
Felly draw â fi atynt ar unwaith, a dweud wrth y ddau fod sawl dull
O wawdio’n Gymraeg, yn lle Saesneg, pan aiff pob rhyw chwarae yn hyll.
Fe soniais am hurpyn a hurtyn, am dwmffat, am lipryn, am lo,
Am lembo, am lolyn, am snichyn, am ddiawl ac am gythraul*, o do,
Ac am ambell enw sydd gryfach, y dylid ystyried yn llawn
Cyn mentro’u defnyddio’n gyhoeddus, wrth fynd yn wyllt gacwn go iawn.
A dyna a fuodd – ’mhen deuddydd a minnau yn mynd ar fy hynt
Drwy’r parc, dyma glywed y bechgyn yn ymladd â’i gilydd, fel cynt.
“Y mwlsyn, beth wnest ti i’r siwmper? Roedd hon gynnau fach yn reit sych,
Ond nawr mae hi’n wlyb ac yn fawlyd – y penbwl, rwyt ti’n rîal ****!”
“Wel, dwyt ti ddim gwell, yr hen fwnci, o wyt, rwyt ti’n yfflon o boen,
Yn tynnu, nes rhwygo fy nhrowsus. O daro, cer adre’r *** ***!”
Es atynt i geisio’u gwahanu, ac meddwn, a’m calon yn llawn,
“Wel wir, mae hi’n bleser eich clywed! Am fechgyn rhagorol – da iawn!”

Elin Meek - 9

Llinell ar y pryd – Heno ar nos Fawrth ynys/Heno mae’n nos Fawrth ynyd

Y Diwc
Heno mae’n nos Fawrth ynyd,
A hei rwy’n byta o hyd.

Tanau Tawe
Heno ar nos Fawrth ynyd,
Mae’i geg yn sâm o hyd.

0.5

Telyneg 18 llinell - ‘Dŵr’

Y Diwc
Ar ddiwrnod o wanwyn
mae’r afon yn loyw fel swllt,
croten ysgol mewn ffrog newydd
yn dod ling-di-long
yn ôl o’i hoed cynta.

Ond pan mae hi ar ei hucha,
ar garlam fel gyr o anifeiliaid gwyllt,
sguba freichiau cadeiriau,
coesau bordydd, wynebau clociau
i lawr yn storm o ddicter.

Teganau bregus
fel olion di-siâp dan ddaear.

Martin Huws – 8.5

Tanau Tawe
Pan lusgai Taf a Chynon
Trwy glafr pentrefi’r glo,
Roedd blas yr halen ynddynt
Wrth olchi clwyfau’r fro,
A chwys y glowr dan y clai
Yn halltu’r llif rhwng rhestrau’r tai.

Bu Afan a dwy Ebwy
Yn carthu rhwd y dur,
A llidus oedd eu llyfiad
Ar lethrau’r cwm a’u cur,
A dagrau’r trefi lle bu’r Gwaith
Yn halltu’r dyfroedd ar eu taith.

Ond heddiw rhed yn groyw
Bob ton trwy rychau’r wlad,
A llif y crëyr a’r brithyll
Yn ddrych i’r hen dreftad
A welir yn y dyfroedd clir
Fel llun a guddiwyd am ry hir.

Robat Powell – 9.5

Englyn - ‘Tocyn’

Y Diwc
Iesgob, mae fy rhifau’n disgyn, - miloedd,
Na, miliwn, mwy’n dilyn.
Ond hec, ble rois y tocyn?
Yn y golch ‘da’r cryse gwyn !

Dewi Rhisiart - 9

Tanau Tawe
Tocyn awyren i Dwrci i mi a’r jihadi

Prynais ef am wyliau nefol - a chael
Dychwelyd yn siriol ;
A dyn y drem ddirdynnol,
Adref o’i nef ni ddaw’n ôl.

Robat Powell – 9.5

Cyfanswm
Y Diwc - 69.5
Tanau Tawe – 70.5