FfotosynthesisFfotosynthesis: oes angen carbon deuocsid?
Cyflawna blanhigion ffotosynthesis i wneud bwyd o鈥檙 defnyddiau crai o鈥檜 hamgylchedd. Ymchwiliwn yr amodau sydd eu hangen ar gyfer y broses hon a鈥檙 ffactorau sy鈥檔 effeithio ar ei chyfradd.
Oes angen carbon deuocsid i blanhigyn gyflawni ffotosynthesis?
I ymchwilio i weld a oes angen carbon deuocsid er mwyn i blanhigyn gyflawni ffotosynthesis, mae angen i ni greu amodau i鈥檙 planhigion lle mae carbon deuocsid yn bresennol mewn un prawf ac yn absennol mewn un arall. Mae鈥檙 aer yn cynnwys 0.04% carbon deuocsid. Mae gwyddonwyr yn gallu defnyddio sodiwm hydrocsid Cemegyn sy鈥檔 cael ei ddefnyddio i amsugno carbon deuocsid o鈥檙 aer. i amsugno carbon deuocsid o鈥檙 aer fel nad yw ar gael i鈥檙 planhigion i鈥檞 ddefnyddio yn ystod ffotosynthesis.
Question
Yn yr arbrawf penodol hwn, mae planhigyn heb startsh yn cael ei orchuddio 芒 bag plastig tryloyw aerglos. Mae鈥檙 cemegyn sodiwm hydrocsid yn cael ei roi yn y bag gyda鈥檙 planhigyn i amsugno鈥檙 carbon deuocsid. Mae鈥檙 planhigyn yn cael ei adael am 24 awr ac mae鈥檙 dail yn cael eu profi am startsh gan ddefnyddio 茂odin. Bydd y dail yn dangos nad oes dim startsh wedi鈥檌 wneud oherwydd nad oes ffotosynthesis wedi digwydd heb garbon deuocsid.
Beth yw diben y rheolydd?
Mae鈥檙 rheolydd yn cael ei gadw yn yr un amodau yn union 芒鈥檙 arbrawf, ond gan ddefnyddio d诺r yn lle鈥檙 newidyn annibynnol (sodiwm hydrocsid). Mae hyn yn golygu nad oes carbon deuocsid wedi cael ei amsugno o鈥檙 aer.
Diben y rheolydd yw cymharu i ddangos y byddai鈥檙 planhigyn yn gwneud startsh drwy gyfrwng ffotosynthesis pe na bai鈥檙 sodiwm hydrocsid yn amsugno鈥檙 carbon deuocsid.
Dyma鈥檙 dystiolaeth mai鈥檙 newidyn annibynnol sy鈥檔 gyfrifol am y canlyniad.