Twf terfysgaeth yn yr 20fed a’r 21ain ganrif
Nid yw terfysgaeth yn rhywbeth newydd. Ond, ers y 1960au bu cynnydd yn nifer yr ymosodiadau terfysgol ym Mhrydain a chynnydd mewn ofni terfysgaeth.
Terfysgwyr yw pobl sy’n defnyddio dulliau treisgar, neu fygythiadau treisgar, er mwyn cyflawni eu hamcanion. Mae terfysgwyr yn amcanu at greu newid llwyr mewn gwlad, megis disodli llywodraeth neu orfodi newid sylweddol yn y gyfraith neu mewn polisi.
Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA)
Roedd yr IRA yn credu bod y mwyafrif Protestannaidd yn gwahaniaethu yn erbyn y boblogaeth Gatholig. Roedden nhw eisiau i Ogledd Iwerddon wahanu oddi wrth y DU a dod yn rhan o Weriniaeth Iwerddon. Roedd llywodraeth y DU yn gwrthwynebu hynny’n gryf.
Anfonodd llywodraeth Prydain filwyr i Ogledd Iwerddon ar ôl i’r IRA ddechrau defnyddio trais. Targedodd yr IRA milwyr â bomiau a gynau. Fe geision nhw llofruddio Prif Weinidog y DU, Margaret Thatcher, a’i chabinet yn Brighton yn 1984. Lladdwyd pump o bobl ac anafwyd 31, ond ni anafwyd Thatcher. Ym mis Mehefin 1996, ffrwydrodd bom yr IRA yng Nghanolfan Siopa Arndale ym Manceinion, gan anafu 212 o bobl.
Rhwng 1969 ac 2001 cafodd 3,526 o bobl eu lladd gan drais terfysgol yn y DU.
Grwpiau cenedlaetholgar yng Nghymru
Ers y 1960au bu cefnogaeth gynyddol i grwpiau cenedlaetholgar yng Nghymru. Rhwng 1963 a 1969, yn sgil boddi cwm Tryweryn a phentref Capel Celyn, gweithredodd grŵp oedd yn cael ei alw’n MAC (Mudiad Amddiffyn Cymru). Cafodd adeiladau’r llywodraeth yng Nghaerdydd eu bomio a difrodwyd pibellau oedd yn cario dŵr i Lerpwl.
Fe wnaeth nifer fechan o genedlaetholwyr gyflawni ymosodiadau yn cynnwys gosod bomiau a llosgi bwriadol, yn cynnwys llosgi tai haf yn y 1980au gan Feibion Glyndŵr. Roedden nhw'n credu bod yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig dan fygythiad, a bod cymunedau Cymraeg yn cael eu dinistrio gan fewnfudwyr Saesneg o Loegr.
Bomio’r arwisgiad
Rhoddwyd teitl Tywysog Cymru i’r Tywysog Siarl mewn arwisgiadSeremoni lle rhoddir teitl ar rywun yn swyddogol. ffurfiol ar 1 Gorffennaf 1969 yng Nghastell Caernarfon. Roedd cefnogwyr iau Plaid CymruPlaid wleidyddol yng Nghymru. a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthwynebu’r arwisgiad yma yn gryf. Derbyniodd Tywysog Siarl fygythiadau gan grwpiau o wladgarwyr Cymreig.
Ceisiodd aelodau o sefydliad cyfrinachol o’r enw Mudiad Amddiffyn Cymru osod bomiau er mwyn ffrwydro’r rheilffordd a ddefnyddiwyd gan y trên brenhinol. Fodd bynnag, ffrwydrodd y bom wrth i’r bomwyr ei gludo at y rheilffordd, gan ladd dau o’r cynllwynwyr. Gadawyd ffrwydrad arall yn Abergele, ac fe ffrwydrodd rai dyddiau’n ddiweddarach, gan anafu plentyn.
Terfysgaeth rhyngwladol
Roedd grwpiau terfysgol rhyngwladol fel y Ffrynt Rhyddid Palesteinaidd ac ETA (grŵp ymwahanu yn y Basg) yn gweithredu yn ystod diwedd yr 20fed ganrif.
Yn fwy diweddar, mae grwpiau fel Al-Qaeda wedi bod yn gyfrifol am ymosodiadau terfysgol, gyda’r mwyaf adnabyddus yn cael ei gynnal ar Ganolfan Masnach y Byd, neu’r Twin Towers, yn Efrog Newydd ar 11 Medi 2001, a’r ymosodiadau yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005.
Mae Al-Qaeda yn grŵp o derfysgwyr rhyngwladol ac yn grŵp Islamaidd eithafol. Er bod yna gelloedd mewn nifer o wledydd erbyn hyn, ffurfiwyd y grŵp yn Afghanistan gan Osama Bin Laden.
Mae nifer o’u cefnogwyr yn credu eu bod yn rhan o ryfel sanctaidd yn erbyn gwledydd Gorllewinol. Maen nhw eisiau newid polisi tramor cenhedloedd gorllewinol yn cynnwys UDA.