Lladrata pen ffordd a smyglo
Lladrata pen ffordd
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, cynyddodd masnach dramor. Roedd nifer o’r nwyddau oedd yn cael eu cynhyrchu mewn ffatrïoedd ym Mhrydain yn cael eu hallforio dramor.
Gwellodd trafnidiaeth, o ganlyniad i ffyrdd tyrpeg, camlesi a datblygu’r rheilffordd. Arweiniodd y dulliau trafnidiaeth newydd yma at gyfleoedd newydd i droseddu, megis lladrata pen ffordd.
Roedd lladrata pen ffordd yn drosedd oedd ar gynnydd yn y 18fed ganrif.
- Roedd yna fwy o ffyrdd a mwy o bobl yn teithio nag yn ystod y canrifoedd blaenorol.
- Roedd nifer o’r ffyrdd yn mynd drwy ardaloedd agored, ynysig, ble’r oedd yn hawdd dwyn oddi ar bobl a dianc.
- Ar ddiwedd y rhyfeloedd Napoleonig, roedd nifer o gynfilwyr yn cael trafferth canfod gwaith, ac felly roedden nhw'n troi at ladrata pen ffordd.
- Roedd ambell tafarn neu westy ar hyd y ffyrdd er mwyn i deithwyr allu aros ynddyn nhw. Roedd y rhain yn cynnig cyfle i’r lladron pen ffordd guddio neu werthu eu hysbail.
- Roedd ceffylau yn rhad i’w prynu ac roedd hi’n hawdd cael gafael ar ddrylliau o ganlyniad i’r newidiadau diwydiannol ac amaethyddol.
- Daeth marsiandwyr yn gyfoethog o ganlyniad i’r Chwyldro Diwydiannol. Yn aml byddai teithwyr yn cario llawer o nwyddau gwerthfawr ar hyd y ffyrdd oherwydd mai ychydig o fanciau oedd yn bodoli'r adeg honno.
Smyglo
Smyglo yw masnachu nwyddau yn anghyfreithlon er mwyn osgoi talu tollau a threthi. Roedd yn rhaid i fasnachwyr a dynion busnes dalu:
- Toll gartref - treth ar nwyddau gaiff eu cynhyrchu a’u defnyddio mewn gwlad. Roedd y dreth yn cael ei rhoi ar de, cwrw, seidr, halen, lledr a sebon.
- Tolldal - treth ar nwyddau gaiff eu hallforio a’u mewnforio.
Roedd Tollau gartref a Tholldaliadau yn uchel yn ystod y 18fed ganrif oherwydd bod y llywodraeth yn ceisio codi arian er mwyn talu am y rhyfel â Ffrainc. Smyglo oedd y drosedd o ddod â nwyddau i mewn i’r wlad yn anghyfreithlon heb dalu’r trethi.
Achosion y cynnydd yn y drosedd o smyglo
- Roedd trethi a thollau yn codi.
- Gallai nwyddau a smyglwyd i’r wlad wneud elw mawr ar y marchnad dduGwerthu nwyddau yn anghyfreithlon..
- Roedd nwyddau wedi’u smyglo yn boblogaidd ymysg pobl oherwydd roedden nhw fel arfer yn rhatach na nwyddau a fewnforiwyd yn gyfreithlon. Nid oedd pobl yn tueddu i ystyried bod smyglo yn drosedd ddifrifol. Roedd pobl leol yn cefnogi smyglo.
- Roedd yna filoedd o filltiroedd o arfordir ym Mhrydain, a’r rhan fwyaf ohono ddim yn cael ei warchod ac yn cael ei blismona’n wael.
- Roedd smyglo hefyd yn eithaf cyffrous ac roedd yn ffordd gyflym o wneud arian.
- Buddsoddwyr - roedd yna nifer o bobl yn buddsoddi arian mewn sefydlu gangiau smyglo.