Twf pwysau economaidd yn ystod oes y Tuduriaid
Newidiadau economaidd
Yn ystod y 16eg ganrif, roedd yna gynnydd sydyn yn nifer y crwydrynPerson digartref, di-waith oedd yn crwydro’r strydoedd..
Ystyriwyd bod crwydraeth yn drosedd ddifrifol yn oes y Tuduriaid. Ar y pryd, roedd nifer o bobl yn credu bod crwydraeth yn cael ei achosi gan ddiogi. Roedd pobl yn meddwl bod crwydriaid yn bobl wan a diog.
Roedd rhai pobl yn beio’r crwydriaid eu hunain am feddwdod. Roedd eraill yn credu bod crwydriaid wedi cael eu geni gyda nam oedd yn eu harwain i ddiogi a throseddu.
Roedd nifer o bobl yn teimlo o dan fygythiad gan eu presenoldeb, gan gredu eu bod yn lledaenu’r pla neu'n debygol o achosi gwrthryfel, gan fod rhai yn gyn-filwyr. Wrth ymateb i hynny, gwnaeth Deddfau Tlodion Oes Elisabeth rhwng 1598 a 1601 bob plwyf yn gyfrifol am ofalu am eu tlodion a chosbi cardotwyr.
Ond roedd yna lawer o bwysau economaidd yn ystod y ganrif hon oedd yn egluro’r cynnydd mewn tlodi a throsedd crwydraeth.
Roedd poblogaeth Cymru a Lloegr yn cynyddu yn ystod y 16eg ganrif. Roedd hynny’n golygu bod mwy o bobl yn cystadlu am swyddi a thir.
Roedd Lloegr yn dod yn wlad gyfoethocach o ganlyniad i fwy o fasnachu. Roedd rhai masnachwyr a thirfeddianwyr yn mynd yn gyfoethocach. Ond, roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn dal yn dlawd iawn.
Diweithdra
Roedd nifer o bobl yn gweithio yn y diwydiant brethyn. Pan aeth y diwydiant brethyn drwy gyfnod o ddirwasgiad, collodd gwehyddion a nyddwyr eu swyddi a’u hincwm.
Nid yn y diwydiant brethyn yn unig yr oedd diweithdra’n broblem. Fe wnaeth Harri VII ddadfyddino’r byddinoedd preifat oedd yn bodoli yn ystod Rhyfeloedd y RhosynnauRhyfeloedd yn ystod y 15fed ganrif rhwng aelwydydd Efrog a Lancaster. Brwydr am orsedd Lloegr oedd y rhyfeloedd. Daeth y rhyfeloedd i ben pan ddaeth Harri VII yn Frenin yn 1485.. Arweiniodd hynny at nifer o ddynion yn colli eu swyddi. Collodd nifer o bendefigion eu cyfoeth yn ystod y rhyfeloedd yma, felly roedden nhw'n dechrau cyflogi llai o bobl ar eu tir a’u hystadau.
Tenantiaid fferm
Roedd nifer o bobl yn oes y Tuduriaid yn denantiaid fferm oedd yn rhentu neu’n prydlesu tir gan bendefigion neu fasnachwyr cyfoethog. Cododd cost rhentu tir yn gyflym, a alwyd yn rhac-rentu. Dechreuodd ffermwyr a masnachwyr mwy cyfoethog amgylchynu eu tir, a’i ddefnyddio ar gyfer ffermio defaid. Felly roedd nifer o denantiaid heb unrhyw dir rhent.
Roedd tenantiaid fferm yn ddibynnol ar y cynhaeaf er mwyn goroesi. Bu nifer o gynaeafau gwael yn ystod y 16eg ganrif, yn arbennig yn 1556, 1596 a 1597. Arweiniodd y ffactorau hynny at ddiboblogi gwledig - gweithwyr yn gadael cefn gwlad er mwyn chwilio am swyddi yn y trefi.
Chwyddiant
O ganlyniad i chwyddiant, gwaethygu wnaeth y tlodi. Cododd prisiau nwyddau hanfodol, gan gynnwys bwyd, wrth i'r boblogaeth dyfu, gan orfodi rhai pobl i adael eu cartrefi i chwilio am gymorth a bwyd.
Roedd y cynnydd mewn trethi i dalu am ryfeloedd tramor yn erbyn Ffrainc, yr Alban a Sbaen hefyd yn gwneud pobl yn dlotach, a gwaethygu wnaeth lefelau chwyddiant.
Diddymu’r mynachlogydd
Yn sgil diddymu'r mynachlogyddCaeodd Harri VIII pob mynachlog yng Nghymru a Lloegr rhwng 1536 a 1541. Gwerthwyd eu holl dir ac adeiladau. o dan Harri VIII, cynyddodd nifer y di-waith (mynachod, gweision a labrwyr), ac ar yr un pryd, diflannodd y cymorth a ddarparwyd gan y mynachlogydd i’r tlawd a'r sâl.