Â鶹ԼÅÄ

Pwysau diwydiannu a threfoli

Engrafiad o Lundain yn y 19eg ganrif. Mae’r tai wedi’u gwasgu’n dynn gyda’i gilydd a’u hiardiau’n orlawn o bobl gyffredin llwm yr olwg.
Image caption,
Engrafiad gan Gustave Doré, o'r llyfr 'London: A Pilgrimage' (1872)

Rhwng 1750 a 1900 cynyddodd poblogaeth Cymru a Lloegr yn aruthrol, o tua 7 miliwn i dros 40 miliwn.

Chwyddodd y trefi a’r dinasoedd oedd yn bodoli a datblygodd lleoedd newydd megis Manceinion a Merthyr Tudful. Roedd yna hefyd newidiadau mewn ardaloedd gwledig, gyda pheirianwaith a thechnegau newydd yn newid bywydau gweithwyr gwledig.

Achosion troseddau trefol

Roedd ardaloedd trefol yn orlawn ac yn llawn afiechydon. Nid oedd fawr ddim cynllunio yn bodoli, a doedd yna ddim seilwaith nac amwynderau. Yn aml roedd pobl yn byw mewn tai gefn wrth gefn, gyda charthffosiaeth agored, a strydoedd yn llawn ysbwriel. Roedd troseddau yn fwy cyffredin mewn ardaloedd trefol.

  • Roedd nifer yn byw mewn ble’r oedd troseddu yn gyffredin. Roedd enwau ar gyfer gwahanol fathau o droseddwyr fel thimble-screwers, oedd yn dwyn watshis poced oddi ar gadwyni.
  • Roedd hi’n hawdd i droseddwyr osgoi cael eu dal yn y llwybrau cefn cul a throellog a’r cyrtiau.
  • Roedd hi’n hawdd i bobl aros yn anhysbys mewn dinas. Mewn pentrefi cyn-ddiwydiannol, roedd pobl wedi arfer adnabod ei gilydd, ond yn y trefi newydd yma, nid oedd pobl yn adnabod ei gilydd. Roedd hi’n haws cyflawni troseddau heb gael eich dal.
  • Roedd plismona yn aneffeithiol.
  • Roedd tlodi ac amodau byw gwael yn arwain nifer o bobl i droseddu er mwyn gwella eu bywydau. Roedd nifer o bobl yn anfodlon â’u bywydau ac eisiau mwy o arian.
  • Roedd damweiniau diwydiannol yn gyffredin. Nid oedd unrhyw iawndal i’w gael, a byddai gweithiwr yn cael ei ddiswyddo pe na bai’n gallu parhau i weithio. Roedd hyn yn achosi anobaith ymysg pobl felly roedden nhw'n troi at droseddu er mwyn gallu byw.
  • Roedd plant amddifad yn gyffredin mewn trefi diwydiannol o ganlyniad i’r disgwyliad oes isel. Roedden nhw'n aml yn troi at droseddu er mwyn gallu byw.
  • Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r gweithwyr hawliau gwleidyddol, ac felly nid oedd ganddyn nhw unrhyw ffordd o newid eu hamodau byw na’u hamodau gwaith. Protestiodd grwpiau o weithwyr yn erbyn eu hamodau a’u diffyg hawliau gwleidyddol, fel ym Merthyr Tudful yn 1831 a Siartwyr Casnewydd yn 1838.

‘China’ ym Merthyr Tudful

Bu trefoli cyflym iawn ym Merthyr Tudful. Roedd yn bentref bach yn 1750, ond erbyn 1800 roedd tua 8,000 o bobl yn byw yn y dref. Roedd ehangu mor gyflym â hynny yn arwain at amodau byw gwael, a thai gorlawn yn cael eu rhannu, carthffosiaeth agored, tomenni sorod, budreddi ac afiechydon. Roedd epidemigion megis y frech wen, colera a thiffws yn ymledu’n gyflym ac roedd disgwyliad oes yn isel. Ond, roedd pobl yn dal i heidio i Ferthyr yn y gobaith o gael gwell bywyd o ganlyniad i weithio yn y gwaith dur.

Roedd yr ardal a gafodd y llysenw ‘China’ ym Merthyr Tudful yn hofel enwog. Roedd yn ardal dlawd a pheryglus ble’r oedd troseddu yn rhemp. Roedd yn ardal ble’r oedd lladrata a phuteindra yn gyffredin.

Achosion troseddau gwledig

Newidiodd y Chwyldro Diwydiannol cefn gwlad hefyd. Roedd peiriannau megis peiriannau dyrnu yn golygu bod dynion yn colli gwaith. Roedd tlodi gwledig yn uchel. Roedd gan weithwyr fferm gyflogau isel ac oriau hir.

Pan oedd pris bara yn uchel roedd nifer yn cael trafferth goroesi. Roedd rhai gweithwyr fferm yn troi at y drosedd o er mwyn gallu byw. Ond, y gosb am botsio oedd trawsgludo neu hyd yn oed ddienyddio. Roedd hi’n anodd i’r tlodion gwledig oroesi. Yn ystod Terfysgoedd Swing 1830-31, trodd labrwyr amaethyddol at dorri peiriannau a chodi terfysg yn ne-ddwyrain Lloegr.

Yn ne-orllewin Cymru rhwng 1839-43, ymosododd grwpiau o ffermwyr, wedi gwisgo fel menywod, ar dollbyrth gan eu bod yn ddig ynglŷn â’r prisiau a dalwyd mewn tollbyrth, ond hefyd oherwydd y rhenti cynyddol, Deddfau’r Tlodion a'r degwm. Arweiniodd y degwm hefyd at achosion o drais yn y Gymru wledig yn ystod yr 1880au.