Â鶹ԼÅÄ

Effaith newid crefyddol yn ystod y 17eg ganrif

Oes y Stiwartiaid

Gorchmynnodd Iago I y dylid dirwyo Catholigion nad oedd yn mynychu gwasanaethau (Protestanaidd) Eglwys Lloegr, ac adroddwyd ei fod yn casáu’r grefydd Gatholig. Arweiniodd hynny at fwy o wrthwynebiad yn ei erbyn ymysg Catholigion, oedd yn cynnwys Brad y Powdr Gwn yn 1605, sef yr ymgais i ladd y brenin a ffrwydro’r Senedd. Daliwyd y cynllwynwyr a’u dienyddio am deyrnfradwriaeth.

Llun o Guy Fawkes ar ei bengliniau gyda’i freichiau wedi’u clymu tu ôl i’w gefn yn cael ei gwestiynu gan griw o ddynion.
Image caption,
Guto Ffowc, un o gynllwynwyr y powdr gwn, yn cael ei holi gan Iago I ac aelodau o'i Gyfrin Gyngor

Yn ystod oes y Stiwartiaid, cynyddodd mewn poblogrwydd. Ar ôl dienyddio Siarl I yn 1649, roedd y Piwritan Oliver Cromwell yn Arglwydd Amddiffynnydd ac roedd y Senedd wedi ei meddiannu gan Biwritaniaid.

Arweiniodd hynny at gyfres o ddeddfau oedd yn ceisio gorfodi syniadau Piwritanaidd, ac roedd methu â dilyn y deddfau hyn yn heresi:

  • gwaharddwyd chwarae pêl-droed ar y Sul
  • gwaharddwyd trin gwallt neu farf ar y Sul
  • gwaharddwyd rhegi
  • Dilëwyd diwrnod y Nadolig yn 1652. Hefyd, roedd dathlu’r Pasg a’r Sulgwyn yn anghyfreithlon

Ar ôl adfer y frenhiniaeth gyda Siarl II ym Mai 1660, diddymwyd y deddfau Piwritanaidd caeth.

Dewiniaeth

Roedd dewiniaeth yn drosedd tan 1735, a’r gosb am hynny oedd marwolaeth yn ystod oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid. Ystyriwyd bod gwrachod yn weision i’r diafol ar y ddaear. Yn aml, roedd diffyg dealltwriaeth pobl yn achosi iddyn nhw gredu bod pethau drwg yn waith y diafol neu wrachod. Ysgrifennodd y Brenin Iago I lyfr ar ddewiniaeth gan awgrymu ffyrdd o’u hadnabod a’u dal.

Roedd pob brenin neu frenhines yn ceisio sicrhau bod pawb yn dilyn eu deddfau crefyddol. Felly roedd dewiniaeth yn bryder i Gatholigion a Phrotestaniaid. Amcangyfrifir bod hyd at 1,000 o bobl, a merched yn bennaf, wedi cael eu dienyddio am ddewiniaeth mewn cyfnod o 200 mlynedd. Yn ystod y 1640au bu erlid gwrachod sylweddol yn Essex dan arweiniad yr erlidiwr gwrachod, Matthew Hopkins.

Gwraig amheus yn cael ei gostwng i'r dŵr i ddarganfod a fyddai hi'n goroesi ac felly'n cael ei ystyried yn wrach.
Image caption,
Prawf dewiniaeth yn Lloegr, 17eg ganrif. Gwraig amheus yn cael ei gostwng i'r dŵr i ddarganfod a fyddai hi'n goroesi ac felly'n cael ei ystyried yn wrach