Â鶹ԼÅÄ

Effaith newid crefyddol yn ystod y 16eg ganrif

Achosodd crefydd trosedd sylweddol yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd methu â dilyn a thyngu llw i’r newidiadau yr oedd pob Brenin neu Frenhines yn ei wneud mewn perthynas â chrefydd yn drosedd. Roedd nifer o bobl yn cael eu cosbi am yn ystod y cyfnod hwn.

Ar brydiau roedd pobl oedd yn gwrthwynebu’r newidiadau crefyddol yn gwrthod dilyn yr arferion newydd, yn siarad yn gyhoeddus yn erbyn y newidiadau, neu’n trefnu gwrthryfeloedd neu gynllwynion yn erbyn y frenhiniaeth. Roedd y gweithredoedd yma yn droseddau yn oes y Tuduriaid.

Felly, roedd y diwygiad yn golygu bod y frenhiniaeth, y llywodraeth a’r senedd yn ymwneud mwy â materion crefyddol. Roedd hynny’n golygu’n aml fod rhywun oedd yn cyflawni trosedd heresi yn cyflawni hefyd.

Achosion heresi a theyrnfradwriaeth o dan Harri VIII

Yn ystod y 16eg ganrif y dechreuodd y Diwygiad Protestannaidd yn Ewrop. Dechreuodd y syniadau Protestannaidd yma ledaenu i Gymru a Lloegr yn y 1520au a dechreuodd ddylanwadu ar nifer o bobl. Ond, argyfwng ysgariad Harri VIII o 1529 oedd catalydd y diwygiad yng Nghymru a Lloegr.

Defnyddiodd Thomas Cromwell y Senedd i basio cyfres o ddeddfau a wahanodd Eglwys Lloegr oddi wrth yr Eglwys Gatholig Rufeinig, gan wneud Harri VIII yn bennaeth yr Eglwys yng Nghymru a Lloegr yn hytrach na'r Pab yn Rhufain. Cafodd y Beibl ei gyfieithu i'r Saesneg yn 1539, ond ychydig iawn a newidiodd fel arall. Parhaodd gwasanaethau'r Eglwys a’r gweddïau i fod yn Lladin ac nid oedd hawl gan offeiriaid briodi.

Deddfau Harri VIIIDeilliannau
Deddf Goruchafiaeth 1534Y ddeddf hon osododd Harri VIII yn bennaeth yr Eglwys. Roedd y rhai oedd yn gwrthod derbyn awdurdod Harri ar yr Eglwys yn cael eu cosbi. Dienyddiwyd Syr Thomas More gan iddo wrthod tyngu Llw Goruchafiaeth.
Deddf Olyniaeth 1534Plant gwraig newydd Harri, Anne Boleyn, oedd i gael blaenoriaeth yn yr olyniaeth ar draul ei ferch Mary. Golygodd Deddf Teyrnfradwriaeth yn yr un flwyddyn bod gwrthwynebu’r ddeddf hon neu’r Ddeddf Olyniaeth yn drosedd allai arwain at gosb farwol.
Diddymu’r Mynachlogydd 1536-40Caewyd y mynachlogydd ar draws y wlad.
Deddf y Chwe ErthyglAilddatganwyd y ffydd Gatholig. Gellid llosgi i farwolaeth y Protestaniaid oedd yn gwadu’r ffydd Gatholig.
Deddfau Harri VIIIDeddf Goruchafiaeth 1534
DeilliannauY ddeddf hon osododd Harri VIII yn bennaeth yr Eglwys. Roedd y rhai oedd yn gwrthod derbyn awdurdod Harri ar yr Eglwys yn cael eu cosbi. Dienyddiwyd Syr Thomas More gan iddo wrthod tyngu Llw Goruchafiaeth.
Deddfau Harri VIIIDeddf Olyniaeth 1534
DeilliannauPlant gwraig newydd Harri, Anne Boleyn, oedd i gael blaenoriaeth yn yr olyniaeth ar draul ei ferch Mary. Golygodd Deddf Teyrnfradwriaeth yn yr un flwyddyn bod gwrthwynebu’r ddeddf hon neu’r Ddeddf Olyniaeth yn drosedd allai arwain at gosb farwol.
Deddfau Harri VIIIDiddymu’r Mynachlogydd 1536-40
DeilliannauCaewyd y mynachlogydd ar draws y wlad.
Deddfau Harri VIIIDeddf y Chwe Erthygl
DeilliannauAilddatganwyd y ffydd Gatholig. Gellid llosgi i farwolaeth y Protestaniaid oedd yn gwadu’r ffydd Gatholig.

Felly daeth heresi a theyrnfradwriaeth yn droseddau mwy cyffredin o dan Harri VIII yn y 1530au a’r 1540au oherwydd roedd unrhyw un nad oedd yn dilyn ac yn cefnogi’r newidiadau hyn yn cyflawni trosedd. Yn ystod teyrnasiad Harri llosgwyd nifer o bobl am heresi neu eu dienyddio am deyrnfradwriaeth.

Yn 1536, protestiodd 30,000 o bobl yn erbyn newidiadau Harri mewn Pererindod Gras gan gymryd rheolaeth o Efrog, Hull, Pontefract a Doncaster. Cafodd 178 o brotestwyr eu dienyddio, gan gynnwys yr arweinydd, Robert Aske.

Achosion troseddu crefyddol o dan Edward a Mari I (Mari Tudur)

Ar ôl marwolaeth Harri VIII yn 1547, trodd ei fab Edward VI yr eglwys yn Brotestannaidd.

  • Cyflwynwyd Llyfr Gweddi Cyffredin yn Saesneg.
  • Diddymwyd yr Offeren Lladin a newidiodd gwasanaethau’r Eglwys i fod yn Brotestannaidd.
  • Roedd offeiriaid yn cael priodi.
  • Cafwyd gwared â chysegrau, delweddau ac addurniadau Catholig.

Carcharwyd Esgobion Catholig oedd yn gwrthod dilyn newidiadau Edward am heresi. Ond, dim ond dau o bobl a ddienyddiwyd am heresi yn ystod ei deyrnasiad.

Portread mewn paent o Mary I yn eistedd ar gadair o felfed coch yn dal blodyn coch yn ei llaw dde.
Figure caption,
Mari I

Esgynnodd y Pabydd Mari Tudur i’r orsedd yn 1553 ar ôl ymdrech am gyfnod byr gan y Protestaniaid i goroni'r Fonesig Jane Grey yn Frenhines. Fe wnaeth Mari ddadwneud holl newidiadau crefyddol Edward yn gyflym, gan adfer rheolaeth y Pab a chyflwyno arferion Catholig yn ôl yn yr Eglwys.

  • Ailsefydlodd Mari'r Offeren Lladin.
  • Trowyd yr eglwysi yn Gatholig eto - ailosodwyd cysegrau, ffenestri lliw ac allorau Catholig.
  • Defnyddiwyd Beiblau Lladin unwaith eto.
  • Nid oedd hawl gan offeiriaid i gael gwragedd.

Roedd pobl oedd yn gwrthod derbyn newidiadau Mari yn euog o heresi. Roedd Mari yn treialu esgobion Protestannaidd blaenllaw am heresi.

Torlun 'Book of Martyrs' gan John Foxe, 1563 o Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint yn cael ei losgi wrth y stanc
Image caption,
Yn ystod teyrnasiad y Frenhines Catholig, Mari I, cafwyd yr Archesgob Thomas Cranmer yn euog o deyrnfradwriaeth a heresi a'i losgi i farwolaeth

Yn 1554, cafodd Thomas Wyatt a 90 o wrthryfelwyr Protestannaidd eraill eu dienyddio am deyrnfradwriaeth ar ôl methiant eu cynllwyn i ddisodli Mari am Elisabeth, oedd yn Brotestant.

Achosion troseddu crefyddol o dan Elisabeth I

Daeth Elisabeth i’r orsedd yn 1558 a cheisiodd greu ei chrefydd ei hun, a alwyd yn 'ardrefniant' crefyddol. Roedd hi wedi gobeithio bodloni'r Protestaniaid a Chatholigion drwy Brotestaniaeth gymedrol.

  • Daeth Elisabeth yn Bennaeth yr Eglwys, ond galwai ei hun yn Uchaf-Lywodraethwr yn hytrach na Phennaeth.
  • Roedd gwasanaethau’r eglwys, llyfrau gweddi a’r Beibl mewn Saesneg. Ond, argraffwyd llyfr gweddi Lladin hefyd.
  • Caniatawyd rhai addurniadau ac urddwisgoedd yr Eglwys Gatholig.
  • Roedd y llyfr gweddi newydd yn ceisio cyfaddawdu rhwng safbwyntiau Catholig a Phrotestannaidd ynghylch y Cymun.

Roedd nifer o Gatholigion yn anhapus iawn ynghylch ardrefniant crefyddol Elisabeth. Gwrthododd y cardinal William Allen dyngu’r Llw Goruchafiaeth a dihangodd i Rufain. Drwy gydol teyrnasiad Elisabeth, roedd offeiriaid Catholig yn cael eu hyfforddi dramor ac yn dychwelyd i Loegr er mwyn ceisio troi pobl.

Roedd rhai Catholigion yn cymryd rhan mewn cynllwynion yn erbyn Elisabeth, gyda’r nod o’i diorseddu, a gorseddu ei chyfnither Gatholig, Mari Brenhines yr Alban. Roedd nifer o Gatholigion yn parhau i addoli yn y dull Catholig. Roedd pregethwyr Catholig oedd yn parhau i bregethu yn cyflawni trosedd ac yn cael eu cosbi pan fydden nhw'n cael eu dal.

Honnodd Elisabeth nad oedd hi'n erlid pobl am heresi, ac mai pedwar o Gatholigion yn unig fu farw fel hereticiaid. Serch hynny, amcangyfrifir bod 250 o Gatholigion wedi’u dienyddio am deyrnfradwriaeth yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Cafodd Richard Gwyn ei ddienyddio yn Wrecsam yn 1584 a chafodd William Davies, offeiriad Catholig, ei ddienyddio ym Miwmares yn 1593.