鶹Լ

Arwynebedd segment

Segment yw’r rhan rhwng cord ac arc. Yn y bôn, sector gyda thriongl wedi ei dorri allan ohono yw segment, felly mae angen i ni ddefnyddio ein gwybodaeth am drionglau yma hefyd.

Diagram yn dangos y gallwn ganfod arwynebedd segment drwy dynnu arwynebedd y triongl sydd o fewn y sector allan o arwynebedd y sector cyfan.

I gyfrifo arwynebedd segment, bydd angen i ni wneud tri pheth:

  • canfod arwynebedd y sector cyfan
  • canfod arwynebedd y triongl sydd o fewn y sector
  • tynnu arwynebedd y triongl o arwynebedd y sector

Enghraifft

Enghraifft yn dangos sut i ganfod arwynebedd segment sydd ag ongl o 40° a radiws o 8 cm. Mae’r segment wedi ei labelu â P, R, S.

Canfod arwynebedd y sector cyfan

\(\text{Arwynebedd y sector =}~\frac{40}{360} × \pi × {8}^{2}\)

\(\text{= 22.340...}\)

\(\text{= 22.34 cm}^{2}~\text{(i ddau le degol)}\)

Canfod arwynebedd y triongl sydd o fewn y sector

Nid yw hwn yn driongl ongl sgwâr, felly bydd angen i ni ddefnyddio’r fformiwla:

\(\text{Arwynebedd y sector =}~\frac{1}{2}~\text{ab}~\text{sin C}\)

Yn y fformiwla hon, \(\text{a}\) a \(\text{b}\) yw’r ddwy ochr sy’n ffurfio’r ongl \(\text{C}\). Felly mae \(\text{a}\) a \(\text{b}\) yn 8 cm, a \(\text{C}\) yn 40⁰.

\(\text{Arwynebedd y triongl =}~\frac{1}{2} × {8} × {8} × \text{sin 40}\)

\(\text{= 20.569...}\)

\(\text{= 20.57 cm}^{2}~\text{(i ddau le degol)}\)

Tynnu arwynebedd y triongl o arwynebedd y sector

I ganfod arwynebedd y segment sydd wedi ei dywyllu, rhaid i ni dynnu arwynebedd y triongl o arwynebedd y sector.

\(\text{Arwynebedd y segment = Arwynebedd y sector – Arwynebedd y triongl}\)

\(\text{= 22.34 - 20.57}\)

\(\text{= 1.77 cm}^{2}\)

Question

Canfydda arwynebedd y segment sydd wedi ei dywyllu:

Sector gydag ongl o 35° a radiws o 80 m gyda’r segment wedi ei dywyllu.